Friday 7 May 2010

Ceffyla' ar d'ranna

Ceffyla' ar d'ranna,
Codi cyn bora,
Fydd na fyth ddigon i'w bwydo nhw'n fama,
Draw dros y brynia,
Tylla mewn 'sgidia,
Gadael heb glywad eu lleisia am y tro ola'.

Lleuad yn esgyn,
Lleuad yn disgyn,
A'r dydd yn ei ganlyn.

Ceffyla' ar d'ranna,
Codi cyn bora,
Dy gartra i gyd yn dy gôl,
O'r gwely rhy gynnar,
Trydar yr adar,
Heb galon lon i'w galw'n ôl.

Haul ar y mynydd,
Haul ar y môr,
A'r nos ar ei ôl o.

Corff dan y cynfas,
Mai'n glyd a mai'n gynnas,
Y cyrtans di cau rhag y llwch,
Draw yn y dyffryn,
Mae hi'n fain fel y blodyn,
Breuddwyd pob hogyn sy'n galw am groen yn ei gwsg.

Lleuad yn esgyn,
Lleuad yn disgyn,
A'r dydd yn ei ganlyn.

Haul ar y mynydd,
Haul ar y môr,
A'r nos ar ei ôl o.

No comments:

Post a Comment