Thursday 27 May 2010

batyl of ddy secsus yn y gampfa (mewn disgo)

Bachgen:
Gai roi fy llongyfarchiada',
Tydi o ond be w'ti'n haeddu,
'Chos prin mod i'n dy nabod di
Hefo colur dros dy acne,
Merch:
A chwara' teg i ti am wisgo
Dy 'sgidia downsho,
Dy nhw'm cweit yn mynd hefo dy grys tynn gwyn,
Ond ti'n well na dim am heno

Ac er fod dy lynx di'n ffraeo hefo'n ffroena'
Mi alla'i dal ogleuo'r gwersi gym dan ola' gwyn y gampfa,
Ond os ti'n downsho'r cama'n iawn
Mi gei go ar be wti isho,
'Chos dwi'n unig ag yn desbryt ers i mi gael fy nympio,

Cytgan:
Felly downsha 'fo fi,
I gorneli'r disgo ysgol,
Waltzia 'fo fi,
Ymhell o olwg yr athrawon,
Cusana fi,
Yn y gola' amryliw,
Ond nei di addo peidio deud wrth neb?

Merch:
Mi wti dipyn byrrach,
A ti'n hyllach nag oedd o,
Ond yn ei absenoldeb mi fydd rhaid i ti neud y tro,
Jysd bydd yn wr bonheddig,
Mi 'na'i gau fy llygaid a breuddwydio
Modi hefo fo, yn downsho'n slô,
Yn lle hefo chdi yn sdryglo
Bachgen:
Mi wn fod dy falchder di yn fwrn nes 'i fod o'n brifo
Merch:
Felly pam nei di'm jysd cau dy geg
a gada'l i ni ddownsho?
Bachgen:
Paid mynd ar gefn dy geffyl,
'Chos ma'i fwng o'n mynd yn feinach,
Mi 'sa'i 'senna fo yn synnu dyn
Mor dena' ydio bellach

Cytgan:
Felly downsha 'fo fi,
I gorneli'r disgo ysgol,
Waltzia 'fo fi,
Ymhell o olwg yr athrawon,
Cusana fi,
Yn y gola' amryliw,
Ond nei di addo peidio deud wrth neb?

No comments:

Post a Comment