Wednesday 12 May 2010

Can y Capden Llongau

Wedi gwario'm mhres bob dima,
Es i lawr i'r harbwr 'gosa,
I wylio'r llongau hardd yn gada'l,
Am y gora' tua'r gorwel.
Heno'n gorffwys wrth fy ngartra,
Yfory ymhell ar draws y tonnau,
Oddi wrth y crud a'r cartra clyd,
I'r ddinas wen sy'm mhen draw'r byd.

O na chaf i hel fy mhetha'
A mynd yn was i'r capdan llonga',

A dyna ddyn oedd ar bwys y docia'
Yn deud ei fod o'n gapden llonga,
Hefo ceiniog brin i'm tywys inna
Dros y don i'r bywyd nesa,
A dan hwylia duon awn dros y don,
Picelli arian a tharian drom,
Yn lancia ifanc, hardd a hy,
Awn drwy y porth sy'm mhen draw'r byd.

A dyna'r hogia i gyd yn gada'l,
Dros y don mewn llonga' rhyfal.

Cofiwch lancia' peidiwch chitha
Mynd law yn llaw a'r capdan llonga'.

No comments:

Post a Comment