Sunday 16 May 2010

bora

Dyma fora eto fyth, a minnau heb fynd i gysgu, mai'n rhy hwyr bellach. Bum yn treulio'r rhanfwyaf o'r noson hefo'r gwr hynaws Rhyz Gwynvor yn sbio ar Battle Royale (Ffilmas dda cofiwch) a phethau doniol ar yr Iw Tiwb, a bum yn gwario'r gweddill mewn amball i dy tafarn yn slochian bwmbras a deud petha twp. Bum hefyd yn 'sgota brecwasd, a brecwasd a gafwyd, un da, a chwrt bach del i fynd i bî-pî ynddo hefyd. Dyna lwyddiant oedd hyn ar fore dydd sul.
A dyma Leonard yn canu im; "Look at me leonard". Yn y trydydd person y bydd Leonard yn canu im heddiw, a chanu dwfn a da ydyw, yn falm i'r enaid a minnau heb affliw o fynadd astudio ar gyfer yr arholiad a ddaw cyn pen deuddydd. Poen ydyw, a phoen fydd pe na byddai yn llwyddo i aros ar ddihun hyd at yr hwyrnos, a chysgu megis dyn call am noson. Pob lwc im.

No comments:

Post a Comment