Thursday 27 May 2010

batyl of ddy secsus yn y gampfa (mewn disgo)

Bachgen:
Gai roi fy llongyfarchiada',
Tydi o ond be w'ti'n haeddu,
'Chos prin mod i'n dy nabod di
Hefo colur dros dy acne,
Merch:
A chwara' teg i ti am wisgo
Dy 'sgidia downsho,
Dy nhw'm cweit yn mynd hefo dy grys tynn gwyn,
Ond ti'n well na dim am heno

Ac er fod dy lynx di'n ffraeo hefo'n ffroena'
Mi alla'i dal ogleuo'r gwersi gym dan ola' gwyn y gampfa,
Ond os ti'n downsho'r cama'n iawn
Mi gei go ar be wti isho,
'Chos dwi'n unig ag yn desbryt ers i mi gael fy nympio,

Cytgan:
Felly downsha 'fo fi,
I gorneli'r disgo ysgol,
Waltzia 'fo fi,
Ymhell o olwg yr athrawon,
Cusana fi,
Yn y gola' amryliw,
Ond nei di addo peidio deud wrth neb?

Merch:
Mi wti dipyn byrrach,
A ti'n hyllach nag oedd o,
Ond yn ei absenoldeb mi fydd rhaid i ti neud y tro,
Jysd bydd yn wr bonheddig,
Mi 'na'i gau fy llygaid a breuddwydio
Modi hefo fo, yn downsho'n slô,
Yn lle hefo chdi yn sdryglo
Bachgen:
Mi wn fod dy falchder di yn fwrn nes 'i fod o'n brifo
Merch:
Felly pam nei di'm jysd cau dy geg
a gada'l i ni ddownsho?
Bachgen:
Paid mynd ar gefn dy geffyl,
'Chos ma'i fwng o'n mynd yn feinach,
Mi 'sa'i 'senna fo yn synnu dyn
Mor dena' ydio bellach

Cytgan:
Felly downsha 'fo fi,
I gorneli'r disgo ysgol,
Waltzia 'fo fi,
Ymhell o olwg yr athrawon,
Cusana fi,
Yn y gola' amryliw,
Ond nei di addo peidio deud wrth neb?

Pryfaid

Hyd yma mi 'dwi wedi cael fy mrathu bymthag gwaith, chwe brathiad ar fy nghoes chwith, dwy frathiad ar fy nhroed chwith, chwe brathiad ar fy nghoes dde, ag un ar fy mraich dde, maent oll yn cosi 'tha bygars.
Dwi heb allu gneud dim yn ddiweddar o'u herwydd.
Gas gin i bryfaid.

Sunday 16 May 2010

och

och, tisho fflêc hefo'r bwlshit 'na iwsyn?

bora

Dyma fora eto fyth, a minnau heb fynd i gysgu, mai'n rhy hwyr bellach. Bum yn treulio'r rhanfwyaf o'r noson hefo'r gwr hynaws Rhyz Gwynvor yn sbio ar Battle Royale (Ffilmas dda cofiwch) a phethau doniol ar yr Iw Tiwb, a bum yn gwario'r gweddill mewn amball i dy tafarn yn slochian bwmbras a deud petha twp. Bum hefyd yn 'sgota brecwasd, a brecwasd a gafwyd, un da, a chwrt bach del i fynd i bî-pî ynddo hefyd. Dyna lwyddiant oedd hyn ar fore dydd sul.
A dyma Leonard yn canu im; "Look at me leonard". Yn y trydydd person y bydd Leonard yn canu im heddiw, a chanu dwfn a da ydyw, yn falm i'r enaid a minnau heb affliw o fynadd astudio ar gyfer yr arholiad a ddaw cyn pen deuddydd. Poen ydyw, a phoen fydd pe na byddai yn llwyddo i aros ar ddihun hyd at yr hwyrnos, a chysgu megis dyn call am noson. Pob lwc im.

Wednesday 12 May 2010

Can y Capden Llongau

Wedi gwario'm mhres bob dima,
Es i lawr i'r harbwr 'gosa,
I wylio'r llongau hardd yn gada'l,
Am y gora' tua'r gorwel.
Heno'n gorffwys wrth fy ngartra,
Yfory ymhell ar draws y tonnau,
Oddi wrth y crud a'r cartra clyd,
I'r ddinas wen sy'm mhen draw'r byd.

O na chaf i hel fy mhetha'
A mynd yn was i'r capdan llonga',

A dyna ddyn oedd ar bwys y docia'
Yn deud ei fod o'n gapden llonga,
Hefo ceiniog brin i'm tywys inna
Dros y don i'r bywyd nesa,
A dan hwylia duon awn dros y don,
Picelli arian a tharian drom,
Yn lancia ifanc, hardd a hy,
Awn drwy y porth sy'm mhen draw'r byd.

A dyna'r hogia i gyd yn gada'l,
Dros y don mewn llonga' rhyfal.

Cofiwch lancia' peidiwch chitha
Mynd law yn llaw a'r capdan llonga'.

Monday 10 May 2010

10/2009

Bwthyn bach ar ben ei hun,
Drws bach coch a walia' gwyn,
Yr ardd yn llawn o floda',
A'r nos yn llawn o syna',
A phan ddel y lleuad gwyn i godi,
Fydd na'm angan digalonni,
Gad dy fyd i gyd yn y gwely,
A mi awn i gerddad hefo'n gilydd.

Saturday 8 May 2010

Y Ffenast

Mai'n cribo ei gwallt wrth y ffenast,
Ei ll'gada a'i gwefusa hi'n goch,
Mai 'di gwisgo yn ei chotwm gora'
A mae'r heulwen yn wyn ar ei boch,
Ac wrth guddio'i llygaid rhag y gola'
Mai'n troi i sbio arna i,
A mai'n sibrwd fel nad ydwi'n clwad,
Rhyw eiriau amdanom ni.

A mai'n deud;
"Awni am dro i ben y brynia,
I ni gael gweld y byd,
Pan fydd y gwynt yn llawn o ogla'r ha'
A'n ffrog i'n wyn i gyd,
Gawni ddenig hefo'n gilydd,
Croesi'r stryd yn ngolau'r lloer,
A'r gwynt yn llawn o ogla'r ha',
A r'un ohonani'n oer"

Ond pan fydda i yn mynd allan,
Mi 'na'i ddisgyn mewn cariad 'fo pob un hogan ddel,
A phan fydda i'n dwad adra
Ma'r gwely yn oer a'r gwylanod yn crio
Y busdi'n cribo dy walld wrth y ffenast,
Dy lygaid, dy wefusa' di'n goch,
A thynnu dy ffrog gotwm ora',
Dy ana'l yn boeth ar fy moch.

Friday 7 May 2010

Ceffyla' ar d'ranna

Ceffyla' ar d'ranna,
Codi cyn bora,
Fydd na fyth ddigon i'w bwydo nhw'n fama,
Draw dros y brynia,
Tylla mewn 'sgidia,
Gadael heb glywad eu lleisia am y tro ola'.

Lleuad yn esgyn,
Lleuad yn disgyn,
A'r dydd yn ei ganlyn.

Ceffyla' ar d'ranna,
Codi cyn bora,
Dy gartra i gyd yn dy gôl,
O'r gwely rhy gynnar,
Trydar yr adar,
Heb galon lon i'w galw'n ôl.

Haul ar y mynydd,
Haul ar y môr,
A'r nos ar ei ôl o.

Corff dan y cynfas,
Mai'n glyd a mai'n gynnas,
Y cyrtans di cau rhag y llwch,
Draw yn y dyffryn,
Mae hi'n fain fel y blodyn,
Breuddwyd pob hogyn sy'n galw am groen yn ei gwsg.

Lleuad yn esgyn,
Lleuad yn disgyn,
A'r dydd yn ei ganlyn.

Haul ar y mynydd,
Haul ar y môr,
A'r nos ar ei ôl o.

Thursday 6 May 2010

Dyddia' du a dyddia gwyn

Dyddia' du a dyddia' gwyn,
Ma' nhw'n dod a ma' nhw'n mynd,
Fel gweddiau ar y gwynt,
Duw a wyr be ddaw ohonynt,

A mi gawn ninna' yn eu lle nhw,
Awyr las a gwyn i'w chadw,
Can yr eos a chan y gwcw,
A'n canu ninna' heddiw,
Mi gana inna, cana ditha,
Coda'r gwynt a coda'n hwylia,
Mi goda'r haul a mi goda'r lleuad,
A mi gyfrai'r dyddia' ar fy mysadd,

Dyddia' du a dyddia' gwyn,
Coda law fel ma' nhw'n mynd,
Yn hada' cyn yr hydref a'n floda cyn yr haf,
Ma' nhw'n canlyn angau cyn y gaeaf