Monday 19 December 2011

Be wyddwn i am Llanwmawrhallt (Neu, ffeithiau difyr am Iwan)

#1 Mae gen i rychwant anarferol o fawr. Yn yr ysgol, fel rhan o rhyw broject maths, mesurwyd taldra, maint esgidiau, rhychwant a.y.y.b yr holl blantos yn y flwyddyn. I ddangos beth oedd normal distribution amwni. Ychydig wedi hynny cefais fy ngalw o rhyw ddosbarth i fynd i weld pennaethiaid yr adran maths. Yn wir, yr oedd fy rhychwant yn anarferol o fawr, mor fawr nes peri i'r graffiau golli'u siap a chwalu'r bell curve. Yr oedd yr athrawon yn meddwl mai camgymeriad ydoedd. Ond gwedi ailfesur, gwelwyd mai gwir ydoedd. "Ma'n rhaid ei fod yn handi ar gyfer canu'r biano" dywedwyd, "ydi" atebais. Mae gen i rychwant anarferol o fawr.

Monday 12 December 2011

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #6 (Neu "I lwyddo rhaid cael cig!")

Mae'r dolig yn dynesu. Gwyl y cig. Eleni, fel pob blwyddyn, mae Dei y Canol yn mynnu cael twrci. "Traddodiad ydyw!" dyna'r gri sy'n atsain hyd muriau'r Erw, y mae'n bytheirio, yn mynnu cael ei gig, toes gan Sian Glyn 'Rerw ddim ffordd o'i dawelu. Ond, myfi ysydd ddiplomat dawnus, dywedaf  "Hurclas Dafydd! Gwell baw isa'r doman ar y bwrdd na thwrci! Gwell cnoi ar bith bambŵ nac ar fronnau sychion y moelieir!". Be haru'r hogyn hwn o gefn gwlad yn cefnu ar ŵydd ei gyndeidiau i hel ei dam't i futs gin dyrcwn 'Mericia? Ond er cryfder fy nadl nid oes modd ei ddarbwyllo.

Eto eleni, ni fydd lle i benelin wrth y bwrdd. "I lwyddo rhaid cael cig" yw'r gri, ond gormod o bwdin dagith Iwi. Mi fydd yna dwrci i Dafydd Ben Pastwn, gŵydd i wŷr gwaraidd, samŵn i'r hen ŵr, crustmas ham i'r hogyn hynaf, eilydd gimwch, yr emyrjynsi becyn cyfyrd mîts. Nid oes lle yn fy 'stumog i'r ffashiwn ddemocratiaeth wrth y bwrdd bwyd. Mi fydd yn ddiwedd arna'i.

Sunday 11 December 2011

Tyrd Olau Gwyn

Tyrd olau gwyn,
Dros y gorwel draw i gychwyn,
Ma 'na un fan hyn sydd ar dân i fynd,
Fu 'rioed yn un ar erfyn,
Tyrd olau gwyn,
Gad 'mi fynd ar adain aderyn,
Ddaw na ddim o fudd i ddyn
O greithiau dyfn hen dennyn,
Tyrd olau gwyn,
Heb fôr, na thir, na therfyn,
Ti'm yn clywad swn traed,
Swn y gwinadd a'r gwaed?
Ma'r fintai fawr ar gychwyn,
Yn barod i fynd, olau gwyn,
Fel adar mân i'th ganlyn,
Yn frodyr, chwiorydd,
Llawn hwyl neu'n llawn cerydd,
Mewn miri neu'n marw ers meityn.

Gad i mi fynd, olau gwyn,
Neu ar Grist, mi rwygwn bob gewin,
Ar graig a mur, ar haearn a dur,
Ar gyrff, ar gariad, ar bob awr a phob eiliad,
Ar lanw a thrai, ar air ac ar fai,
Yn bererin ar bigau i gychwyn