Saturday 26 January 2013

Ymson Thyrti-êt-Twenti-ffôr

Daw Thyrti-êt-Twenti-ffôr i mewn i'r ystafell, a cherdded tua ei gadair.

Bwm, bwm, bwm, bwm, tradws, coesings, bwm, bwm. Bwm, bwm a chamu mewn i'r gadair. Mrghnh. Mi allai ddringo'r gadair, i fyny a ni! Wp, wp! Yp wi go, rait tw ddy top. Gosod dwylo'r meini ar gefn y gadair a chodi'r tradws ar y sedd. Wp, wp! Uwch! Mor uchel, a ninnau heb gael tam'd i futs na dim. Uwch! Wp, wp!
Ond mae'r tradws yn llyfrgwn. Gwae! Maent yn llithro, yn bradychu! Disgyn wyf, Fab y Llan, a'm cefn at y gwaelod mawr. Mrghnh! Fy nhranc!

Disgynna Thyrti-êt-Twenti-ffôr o'i gadair.

Saturday 12 January 2013

Be wyddwn i am Nofio

Myfi aeth i nofio'r wythnos yma. Dyna hel atgofion hyd goridorau aromatig y ganolfan hamdden. Yma y bûm yn blentyn, yn nofio a chau fy mysedd mewn drysau gwydrog. Yma bûm yn cnoi tabledi lwcosêd a chuddio fy nghwd rhag gweddill y dosbarth.
Myfi ac Aled Hŷn sy'n nofio, nyni fydd yn mynd yn ystod yr euraidd awr honno, gwedi dychwelyd y plantos ysgol i'w bysus hyll, a chyn dyfodiad pysgod-blant y gwersi preifat i gnoi y fflôts. Hen bobol sy'n nofio'r adeg yma, yn mynd a dod yn ara bach, yn ddi-stop. Myfi ac Aled sy'n ddi-brofiad, a'n sbydu ein dogn egni ar ffrynt crôls blêr. Wele ni yn ochneidio yn y pen bas, yn gweddio rhag chwydu dros bob man (Diolch i ras Duw a berodd i ni beidio a bwyta'r fflôts cyn plymio). Nyni sydd welw a'n gyddfau'n drewi o glorin, hanner marw mewn dwy droedfedd o ddŵr, a'n gorfod osgoi mynd-a-dod yr hen stejars. Pawennu'r dŵr i'w hosgoi. Baglu a boddi byth a beunydd wrth ddianc rhagddynt. Y mae'r gwŷr ar eu gorseddau'n giglo, heb estyn eu ffyn haearn eto. Heb daflu y fflôts mawrion i'n hachub, rhag i'r hen bobol ecseitio bur debyg, a'u tipio dan chwerthin.
Llusgais Anymwybodaled Hŷn tua'r ystol, gan rhoi peltan i'r sguthan facstrôcllyd a oedd yn bygwth ein llwybr. Mi awn, meddais. Ni atebodd, Anymwybodaled oedd bellach.