Wednesday 28 September 2011

Duw Greodd y Car

Tyrd di heno, draw dros y mynydd,
'Gin ti gar, 'gin i gur, gawni gwrdd heb un cerydd,
D'eud y cawn ni fynd tua'r trefi mawr gwyn,
Dim ond d'eud, mi wn y down ni'n ôl i'r fan hyn

Thursday 8 September 2011

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #5

Efallai i mi son cyn heddiw mai un o f'amcanion mewn bywyd yw tyfu locsyn. Dyfal donc a dyrr y garreg yn ôl y rhai sy'n rhy hen i wbod, felly treuliais yr wythnos ddiwethaf yn trio, er i mi drio droeon.

Echnos, gan weld, fel pob tro, nad oedd llawer o ddatblygiad ar faes y gad, cefais syniad. Eilliais fy ngên a'm bochau- gan adael be dybiwn i oedd sylfaen mwstash praff. Syniad da, ebychais, byddai mwstash yn fy siwtio i'r dim a'n denu lodesi smart mor swit a siwgr candi i ysgwyd fy llaw ac eistedd ar fy nglin. Hefyd, byddai'n galluogi i mi grynhoi f'ymdrechion ar un ardal o'r wyneb yn unig, yn hytrach na cheisio'n ofer i daenu gwrtaith prin dros faes sy'n rhy fras fel petai. Ac O! Mor felys fyddai deffro'r bore gyda ôl gwrywdod ar fy ngwefl.

Ond ofer (Och!) fu'r ymdrechion. Bu rhaid i mi dynnu llafn trwy'r trawswch heno am ei fod yn edrych mor ofnadwy o hyll.