Monday 19 December 2011

Be wyddwn i am Llanwmawrhallt (Neu, ffeithiau difyr am Iwan)

#1 Mae gen i rychwant anarferol o fawr. Yn yr ysgol, fel rhan o rhyw broject maths, mesurwyd taldra, maint esgidiau, rhychwant a.y.y.b yr holl blantos yn y flwyddyn. I ddangos beth oedd normal distribution amwni. Ychydig wedi hynny cefais fy ngalw o rhyw ddosbarth i fynd i weld pennaethiaid yr adran maths. Yn wir, yr oedd fy rhychwant yn anarferol o fawr, mor fawr nes peri i'r graffiau golli'u siap a chwalu'r bell curve. Yr oedd yr athrawon yn meddwl mai camgymeriad ydoedd. Ond gwedi ailfesur, gwelwyd mai gwir ydoedd. "Ma'n rhaid ei fod yn handi ar gyfer canu'r biano" dywedwyd, "ydi" atebais. Mae gen i rychwant anarferol o fawr.

Monday 12 December 2011

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #6 (Neu "I lwyddo rhaid cael cig!")

Mae'r dolig yn dynesu. Gwyl y cig. Eleni, fel pob blwyddyn, mae Dei y Canol yn mynnu cael twrci. "Traddodiad ydyw!" dyna'r gri sy'n atsain hyd muriau'r Erw, y mae'n bytheirio, yn mynnu cael ei gig, toes gan Sian Glyn 'Rerw ddim ffordd o'i dawelu. Ond, myfi ysydd ddiplomat dawnus, dywedaf  "Hurclas Dafydd! Gwell baw isa'r doman ar y bwrdd na thwrci! Gwell cnoi ar bith bambŵ nac ar fronnau sychion y moelieir!". Be haru'r hogyn hwn o gefn gwlad yn cefnu ar ŵydd ei gyndeidiau i hel ei dam't i futs gin dyrcwn 'Mericia? Ond er cryfder fy nadl nid oes modd ei ddarbwyllo.

Eto eleni, ni fydd lle i benelin wrth y bwrdd. "I lwyddo rhaid cael cig" yw'r gri, ond gormod o bwdin dagith Iwi. Mi fydd yna dwrci i Dafydd Ben Pastwn, gŵydd i wŷr gwaraidd, samŵn i'r hen ŵr, crustmas ham i'r hogyn hynaf, eilydd gimwch, yr emyrjynsi becyn cyfyrd mîts. Nid oes lle yn fy 'stumog i'r ffashiwn ddemocratiaeth wrth y bwrdd bwyd. Mi fydd yn ddiwedd arna'i.

Sunday 11 December 2011

Tyrd Olau Gwyn

Tyrd olau gwyn,
Dros y gorwel draw i gychwyn,
Ma 'na un fan hyn sydd ar dân i fynd,
Fu 'rioed yn un ar erfyn,
Tyrd olau gwyn,
Gad 'mi fynd ar adain aderyn,
Ddaw na ddim o fudd i ddyn
O greithiau dyfn hen dennyn,
Tyrd olau gwyn,
Heb fôr, na thir, na therfyn,
Ti'm yn clywad swn traed,
Swn y gwinadd a'r gwaed?
Ma'r fintai fawr ar gychwyn,
Yn barod i fynd, olau gwyn,
Fel adar mân i'th ganlyn,
Yn frodyr, chwiorydd,
Llawn hwyl neu'n llawn cerydd,
Mewn miri neu'n marw ers meityn.

Gad i mi fynd, olau gwyn,
Neu ar Grist, mi rwygwn bob gewin,
Ar graig a mur, ar haearn a dur,
Ar gyrff, ar gariad, ar bob awr a phob eiliad,
Ar lanw a thrai, ar air ac ar fai,
Yn bererin ar bigau i gychwyn

Wednesday 30 November 2011

Rysait Cawl Stwnsh Cwningod

Clywais sôn lawer gwaith am allu cwningod i fagu cwningod, ond erioed nis brofais hyn i'r ffasiwn raddfeydd ac y profais tra'n coginio cawl stwnsh cwningen hefo Aled, y brawd hynaf, ychydig wythnosau yn ôl.

Glyn 'Rerw a Sian Glyn 'Rerw roddodd inni'n anrheg (neu'n wynepwerth, hwyrach, am iddynt ein hel ymaith o'r tŷ i fyw ar ochr mynydd niwlog) gwdyn ac ynddo dwy gwningen. "Dew ogs, mi wna dam't i futs tshamps i lanwi'r bolws heno" me'r brodyr, a minnau a ddywedodd; "ew, pops, cwningod mawr ydy'r rhai hyn", ac yntau a ddywedodd; "Im felly", ac fe aethpwyd a'r cwdyn cwningod yn ôl i'n cartef ar ochr mynydd.

Gwedi berwi'r dŵr, a gosod ynddo nionod (Aled a'u torrodd, yn rhy fras o beth cy'thral yn fy nhyb i) a phob mathau o hyrbs a sbisys, agorwyd y cwdyn cwningod a gosod dwy gwningen yn y crochan berwi cwningod. "Brenin" me' Aled yr hynaf "Y mae yma gwningen arall yn y cwd!", a dyna ei thaflu hi i'r crochan gyda'r gweddill. Wrth gwrs, bu chwerthin mawr am gamgymeriad Glyn 'Rerw a Sian Glyn 'Rerw yn rhoi tair cwningen yn hytrach na dwy, a bu craffu yn y cwdyn rhag ofn bod mwy yno. Ond ofer fu hynny.

Gwedi berwi'r cwningod dyma eu codi o'r crochan berwi cwningod a'u gosod yn ddel i mi ac Aled 'Rhyna eu cerfio. Dyma fi ac Aled yn cerfio. Gwedi cerfio cwningen yr un, aeth Aled ar ei union i gerfio'r drydydd am ei fod yn gynt na mi am gerfio. A dyna gerfio'r drydedd cwningen. A gwedi hynny dyna graffu i fewn i'r crochan i weld beth fyddai galla i'w neud hefo'r jiws cwningan a winwns a oedd yn trigo yno. "Hurclas!" ebychwyd, daeth cwningen arall i'r fei o'r dyfnderoedd.

A dyna chwethin a fu, dwy i'r cwd a thair allan, tair i'r crochan a phedair allan, dyna chi gwningod! (Er na soniais wrth Aled ar y pryd, rhag peri ofn arno, roeddwn yn pryderu am yr hyn fyddai'n digwydd wedi i ni rhoi'r pedair cwningen yn ein boliau. Dim byd a ddigwyddodd, diolch i'r nef).

Y noson honno cafwyd gwledd o stwnsh cawl cwningen, a oedd ychydig bach yn crap er fod y cig yn dda, a rhoddwyd gweddill y stwnsh cawl cwningen yn y rhewgell. Am fod dwywaith cyngymaint o gwningod a'r disgwyl, roedd gormodedd ohono. Mae dal yno hyd heddiw.

A dyna sut mae gwneud cawl stwnsh cwningen.

Tuesday 29 November 2011

Myfi ysydd ddyn..

Myfi ysydd ddyn sydd yn byw mewn tŷ,
Sydd yn byw mewn tŷ gyda'm brodyr,
Yn y tŷ mae tri gwely, tair cadair,
Seidr tshep a gwirodydd,
A rhewgell,
Yn y rhewgell mae stwnsh ffa a chawl cwningen,
Stwnsh ffa a chawl cwningen,
Pwdin reis a rwdin peis,
a stwnsh ffa a chawl cwningen,

O na ddoi di ar fy ôl,
I fwyta stwnsh ffa a chawl cwningen,
Rhyw ddydd ar ôl ei gilydd,
Cans rwyf i yn ddyn sydd yn byw mewn tŷ,
Yn byw mewn tŷ gyda'm brodyr.

Wednesday 28 September 2011

Duw Greodd y Car

Tyrd di heno, draw dros y mynydd,
'Gin ti gar, 'gin i gur, gawni gwrdd heb un cerydd,
D'eud y cawn ni fynd tua'r trefi mawr gwyn,
Dim ond d'eud, mi wn y down ni'n ôl i'r fan hyn

Thursday 8 September 2011

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #5

Efallai i mi son cyn heddiw mai un o f'amcanion mewn bywyd yw tyfu locsyn. Dyfal donc a dyrr y garreg yn ôl y rhai sy'n rhy hen i wbod, felly treuliais yr wythnos ddiwethaf yn trio, er i mi drio droeon.

Echnos, gan weld, fel pob tro, nad oedd llawer o ddatblygiad ar faes y gad, cefais syniad. Eilliais fy ngên a'm bochau- gan adael be dybiwn i oedd sylfaen mwstash praff. Syniad da, ebychais, byddai mwstash yn fy siwtio i'r dim a'n denu lodesi smart mor swit a siwgr candi i ysgwyd fy llaw ac eistedd ar fy nglin. Hefyd, byddai'n galluogi i mi grynhoi f'ymdrechion ar un ardal o'r wyneb yn unig, yn hytrach na cheisio'n ofer i daenu gwrtaith prin dros faes sy'n rhy fras fel petai. Ac O! Mor felys fyddai deffro'r bore gyda ôl gwrywdod ar fy ngwefl.

Ond ofer (Och!) fu'r ymdrechion. Bu rhaid i mi dynnu llafn trwy'r trawswch heno am ei fod yn edrych mor ofnadwy o hyll.

Wednesday 31 August 2011

13/6/2006

"Safai Cadwgan ger y safle bws yn aros am rif 18, ddeullath i’r dde eisteddai’r cyhoeddwr bingo. Galwodd “un ag wyth, un-deg-wyth” a diflannodd Cadwgan. Daeth i’r fei mewn ffos ger Llannor."

Monday 22 August 2011

Be wyddwn i am y Llanw Mawr Hallt #4

Ychydig flynyddoedd yn ôl cefais syniad da. Prynais gyfrol o farddoniaeth Lorca gyda chyfieithiadau sasneg, gan feddwl y byddwn yn dysgu siarad y Sbaeneg fwyaf prydferth a hyfryd ohono. Meddyliais y byddai hyn yn cynyddu y tebygolrwydd o ffendio gwraig to the maximum.

Methiant fu'r ymdrech, ond dwi dal yn meddwl ei fod yn syniad da.

Tuesday 16 August 2011

Hipster Wil Hopcyn

Myfi sydd fachgen ifanc ffôl,
Yn byw yn ôl fy fanzine

Monday 15 August 2011

Y Cwpwrdd Bwyd

Agorais ddrws y cwpwrdd bwyd. Yno 'roedd crystyn torth a thun sardîns.

Dio'm digon i fwydo pump me' mam.

Friday 12 August 2011

Dyddiaduron Seidr Tshep

Mawrth: Cyrraedd, gwlychu'r pig fel petai, a hel y pegia am maes-b. Och a wi, ifanc ydynt, a minnau'n hen a meddw.

Mercher: Deffro mewn tent mewn adlen carafan, od. Mynd a'r babell las i'w chodi yn y maes ieuenctid. Pot nwdl o'r gorlan a iselder dwys i ganlyn. Hynafol wyf. Mi ddechreuodd fy nghefn frifo yn y gig, ac yna bum yn sal trwy fy ngheg wedi i mi yfad rhyw shit. Och, hynafol wyf!

Iau: Dechrau gwael wrth ddeffro yn y maes ieuenctid. Ond wele! Addewid o fecryll a ddaeth dros y gwifrau. Da yw'r dydd sy'n gwmni i addewidion am bysgod. Brasgamu i'r maes yn ffyddiog. Yno dysgais gan gyfaill agos fy mod wedi gaddo canu can ar y maes o fewn hanner awr. "Twt y baw!" me' fi, "yfory mae, yn fy nyddiadur heddiw gwelaf ddim ond y gwethfawrogiad o'r addewid o fecryll". Ond gwae, gwir ydoedd! Dyna hanner awr o geisio cael gafael ar gitar, hithau ym meddiant y brawd canol, a hwnnw'n gyrru Jake le Moto ar gyfeiliorn (neu ar goll) ar gyrion y dref. Eich arwr aeth ar ei union i chwilio, a ffonio, ac ymbilio. Yn ofer, a'n ddiangen, daeth y brawd canol i'r fei. Popeth yn iawn, cenais, a holais fwy am fecryll.

Gwener: Deffro mewn carafan. Brasgamu i maes-b. Yno 'roedd mecryll, mecryll, mecryll di ri! Bwytais un, hyfryd iawn, yna cysgais a nid oedd mwy o fecryll im wedyn. (dysgais wedyn, i mi sibrwd yn fy nghwsg, yn annwyl iawn, wrth y brawd hynaf nad oeddwn a'r awydd i fwyta pysgodyn arall, ac y caiff yntau fy siar i o weddill y bwyd. Ni allwn ddadlau).

Sadwrn: Du, du iawn yw'r dydd heb fecryll. Ta waeth, dyfal donc me 'fi, a mi es ar fy mhen i ganol y dre i wylio pobol yn canu yn lle cymdeithas yr iaith. Gwedi iddynt orffen am hanner nos, mi lanwodd y lle, a daeth miwsig dans a drym and bês ar y tanoi. Ffwrdd a ni ar ben y bwrdd i neud bwgis. Wedyn lawr grisiau i neud bwgis i glasuron o'r wythdegau. Dyna hwyl yw gwneud bwgi.

Sul: Och! Fy nghluniau annw'l. Allai'm handlo hyn. Denig adra ar hyd ffordd ddeuol. Da bo wrecsam.

Wednesday 29 June 2011

Fishin' with GT

Gall y rhai craff yn ein mysg ddidoli o'r neges ddiwethaf fy mod wedi bod yn pysgota'n ddiweddar. Mecryll, mecryll, mecryll di ri, ac ambell i boloc (pysgodyn sydd yn amhoblogaidd iawn ymysg gwŷr y mor, ond mi oeddwn i yn ddiolchgar o'r wefr o'u dal). A cwpwl o sand îls. Dyna sbort.

Ar y ffordd yn ôl o Drefor, a chyda'n gwaed yn dal i ferwi gyda hormons dynion cry', rhaid oedd llusgo coeden (neu wrych mawr) o'r lôn. I atal damweiniau marwol i ferched, plant, a gwŷr llai gwrllyd na ni. Deg troedfedd o daldra oeddem, brenhinoedd ymysg trigolion swyddfeydd a bodwyr beiros, yn pylu cyfrifoldebau priodasol merched y fro. Ar fora Llun bach, doedd na'm taw ar ein campau.

Sunday 26 June 2011

Fishin'

Ar y môr,
sblishi sblash,
dŵr,
sblish sblash,
pysgod bach yn y dŵr,
glyg glyg,
ma 'na fwyd yn y môr,
sblishi sblash

Tuesday 7 June 2011

can ffarwel fo i'r merched glan

Ffarwel i Aberystwyth,
A'r merchaid ieuanc llon,
Na'th rioed gym'ryd unrhyw fath o ddiddordeb yndda'i,
Y ffycars.

Mi aeth 'na dair mlynedd i r'wla, a dwi'm yn byw yn Aber bellach. Dwi'n ddi-waith a'n byw hefo fy rhieni, hm.

Wednesday 1 June 2011

igh8

The great affair is over, and whoever would have guessed
It would leave us all so vacant and so deeply unimpressed?

Saturday 16 April 2011

wanderlust

Deimli di'r byd yn llonyddu
Lle ma'n cyrff ni ynghlwm hefo'r tir?
Lle ma'r dail sy' dan droed 'di bod yno erioed
A mi wn ers tro byd 'u bod nhw'n wir.

Ond ma na fleiddiaid draw dros y mynydd,
Mi glywais fod na dir sy' ar dan tu ôl i'r drws,
Fod na lwybrau sy'n mynd tua'r trefi mawr gwyn,
Hefo'u llongau a'u tyrau tlws.

Friday 15 April 2011

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #3

Yn ddiweddar mi 'dwi ond wedi bod yn breuddwydio dwy freuddwyd. Un hapus, un gas. Chwi seico-analeiddwyr amatur, dadansoddwch;

Yr un hapus; mi 'dwi'n deffro, a ma gyna'i farf, dwi'n llawen iawn am i mi allu tyfu barf.

Yr un gas; mi 'dwi, trwy amryw ffyrdd, yn llwyddo i gael twll yn fy hoff drowsus. Trwy chwarae pel droed ar goncrit neshi echnos.

Dwi'm yn cofio i mi gael unrhyw freuddwyd arall yn y tri mis diwethaf.

Friday 25 March 2011

Adolygiad

Mae'r rhai craff yn eich plith yn siwr o fod wedi sylwi fod y blog yma wedi distewi'n sylweddol dros y misoedd diwethaf. Y rheswm am hynny yw fy mod wedi bod yn treulio'r pedwar mis diwethaf yn adolygu par o drowsus a gefais gan fy rhieni yn bresant Dolig.
Wedi bron i bedwar mis o'u gwisgo'n ddeddfol ar gyfer pob math o achlysur, nid oes twll ynddynt, a dim golwg fler o gwbwl arnynt.
Da iawn, ella prynna'i bar arall.

Monday 31 January 2011

Can y Capden Llongau #2

Wedi gwario 'mhres bob dima,
Mi es i lawr i'r porthladd 'gosa
I wylio'r llongau hardd yn gadael,
Am y gora' tua'r gorwel.
Heno'n gorffwys wrth fy nghartra,
Yfory 'mhell ar draws y tonnau,
Oddi wrth y crud, a'r cartra' clud,
I'r ddinas wen ym mhen draw'r byd

O na chaf i hel fy mhetha,
A mynd yn was i'r capden llonga'

A dyna ddyn oedd wrth y docia,
Yn d'eud ei fod o'n gapden llonga',
Hefo ceiniog brin im tywys inna,
Dros y don i'r bywyd nesa,
'lly dan hwylia duon awn dros y don,
Picall arian, tarian gron,
Yn lancia' ifanc, hardd a hy,
Awn drwy y porth sy' 'mhen draw'r byd

A dyna'r hogia i gyd yn gada'l,
Dros y don mewn llonga' rhyfal.

Gwyn dy fyd di, gapden llonga',
Cael dy hel i'r ffeiria a'r tai tafarna,
I wario'r geiniog, gwario'r ddima,
A gwario plant na ddaw fyth adra,
Ffarwel ferched, ffarwel feibion,
Ffarwel i'r brynia' a'r caeau gwyrddion,
Duw, maddeua imi 'meia,
Ond doedd na'm digon i'm dal i adra.

Cofiwch lancia, peidiwch chitha,
Mynd law yn llaw a'r capdan llonga.

Ma na ryw fyrshwn ohoni i'w chl'wad yma os da chi isho gwrando.

Sunday 16 January 2011

#BywydIwanMewnHaiku

Heddiw mae Elis yr Haikwr ('Clwydda gynt) wedi bod yn gosod stori fy mywyd ar ffurf haiku. Dyma rai;

(Wedi i mi ddileu'r rhacsyn Norton 'na am ei fod wedi blocio fy internet)

Norton wedi mynd
Wedi dileu dy hen ffrind
Serch, poen ac angau

(Wedi i mi glwad fod Elis yn gwrando ar fiwsig "ffwl blast" drws nesa im, hefo'i sbicyrs newydd, a finna'n clwad dim)

Full blast? Pah meddaf,
Glywai Plethyn yn glir-gloch,
Speakers crap Elis

(Wedi i mi fod yn stydio am awran a ond llwyddo i sgwennu'r gair "excrement" ar damaid o bapur)

Un awr o ddysgu,
Wedi sgwennu excrement,
shit ydi'r sdydio.

Gobeithio y cawn fwy yn y man gan yr arch-haikwr.

Wednesday 12 January 2011

unnos

Mai god dwi angan cwsg.
Cwwwwwwwwwwwsg.

Wednesday 5 January 2011

Radio

Allwch chi enwi actor hefo pen moel?
Yda chi'n gwau?
Oes gennych chi lysenw?
Yda chi'n nabod rhywun sydd hefo llysenw?
What's your favourite humming noise?

Mae Radio Cymru isho gwbod 'chi.