Friday 24 December 2010

Crustmas ale

Dydd da blantos,
Bregus wyf, fel bag papur, am i mi yfed gormod o bop (pop brown, pop gwyn, pop coch, pop gwyrdd). Neithiwr bu parti dolig y band a dyna esgus i ddathlu blwyddyn fach lwyddiannus. Y bwriad oedd cael cinio dolig, ofer fu'r ymdrechion, a felly ar ein pennau i polash am gyrri. Dyna'r rheswm pam fy modi ychydig yn wael heddiw, ar noswyl Nadolig o bob noson. Ond, da chi, ma'r crustmas ham ar y bwrdd, a'r samwn, a chyda lwc mi ddaw Santa goch fory hefo lodes ffein mor swit a siwgr candi i mi.
Felly nadolig llawen bob un wan jac.
Iwi Jo

Thursday 23 December 2010

Aur a Thus a Myrrh a Beic

Hm, mi ddes yn ol at hwn yn y pen draw (Ar laptop yr hen wr ydwi a does na'm dewin gosod to bach ar hwn, fel y gwelwch chi).

Mai'n Ddolig, a ma'i di bod yn olew 'leni rhaid deud. Dal heb ddechra teimlo'n Nadoligaidd a gyda lwc nai ddim tan y bora hwnnw. Gwydd gawn ni 'leni, da iawn ebe fi wrth myddar, sna'm angan Twrci me' fi, dadlau'n chwyrn wna Dei a bytheirio; "Onid traddodiad yw?!", "Traddodiad 'mericia ynde" ebe' fi. Bu ffraeo mawr a dwndwr. Ildiodd yr hen ddynas, gwydd a thwrci ar lestri arian ar y bwrdd cinio, gormod o gig me' fi. Heb son am grustmas ham yr hogyn hynaf. A samon yr hen wr. Fydd na'm lle i benelin ar y bwrdd.

Nadolig Llawen,
Iwan

Thursday 9 December 2010

Annwyl Super-Noodles

We've had our day, and now it's over,
We've had our song and now it's sung,
We've had our stroll through summer's clover,
But the summer's gone now, our walking's done.

Dyna ddiwedd i'm mherthynas i a super-nwdls.

Friday 3 December 2010

Dydd Iau

Mi ath yn hwyr mwya' sydyn, a toes na'm hwyl i gal heb gwmni.

Mi fushi'n hogyn da (i raddau) heddiw. Codi'n gynnar i ollwng traethawd yn y blwch erbyn naw ag adra drachefn i ffrio cig moch a wya cyn mynd yn ôl tua campws Llanbadarn am ddarlith. Wrth 'nelu'r tradws tuag adra mi oni'n teimlo mor dda wrth gerddad lawr allt y briallu i mi bicio i iceland i brynnu bwmbras tshiep i ddathlu (mi sylwais fod fwmbras tshiep ar gael yno wythnosau yn ôl). Ond och a wi! Nid bwmbras mohono o gwbl, ond "liquor flavoured with smoky bourbon flavour", bols i hynny. Prynnais goca cola a phitsas cyn mynd drws nesa i fofyn potal o'r goldyn syn yn lidl. Gwae! Doedd yna'm golden syn ar ôl yn lidl, mai'n fain am fwmbras yma ebychais, a mi fodlonais ar botal o hunter's glen finest 8yr old scotch whisky (Hen shit o beth i chi gal dalld).

Er hynny mi welais yr hogan dlysa'n y byd yn lidl, ll'gada mawr yn pefrio, mi ddudodd "sgiws mi" wrth wasgu heibio, o am gariad. A finna'n edrach 'tha sglyfath yn ciwio hefo potal o sgotsh tshep a llond bag o'r cont coca cola.

Ta waeth, mi fu'n ddiwrnod difyrrach na'r arfer.

Monday 29 November 2010

Fferins

Mai'n ffair heno yn Aberystwyth a dwi am fynd yno i sefyll 'mysg y gweision. A hefyd i futa pwys o fferins a mynd ar y waltzers.

Trainspotting

Tasa gyna'i gamra mi faswni 'di tynnu llun o sdeshon mach yn yr eira, mi odd 'igon o sioe, ond sgynai ddim felly mi fodlonish ar sefyll ar y bont a syllu am chydig. 'Mond am chydig, tydi cymdeithas ddim yn derbyn pobol sy'n rhythu ar drenau.

Friday 19 November 2010

deep panned

och, a ma'r bitsa goodfellas ma fel torth.

Tuesday 12 October 2010

Sbeshal k

ildiais i demptasiwn,
gwisgo slipas a mynd i'r siop,
prynnu bocs o special k er nad ydi hogia'n ca'l gneud,
ma'n lyfli

Iwan Ddiog

Be roi di i'th diwtor,
Fab annwyl dy fam?
Be roi di i'th diwtor,
Fab annwyl dy fam?

Hanner traethawd, fam annwyl,
c'weiriwch fy ngwely rwy'n glaf

Be roi di i'r dafarn,
Fab annwyl dy fam?
Be roi di i'r dafarn,
Fab annwyl dy fam?

Fy amsar, fam annwyl, a f'arian i gyd,
A c'weiriwch fy ngwely, dyma'r eildro i mi orfod gofyn.

Monday 11 October 2010

Agor y llenni

Be dwi'n weld drwy ffenestr fy lloffd;

byrddau a chadeiria nad ydwi erioed wedi'u defnyddio,
silff lyfrau sy'n dal i drio dygymod a'r ffaith ei bod hi'n byw mewn gardd,
pel droed fflat,
esgyrn defaid,
chwyn,
hanner rhaw,
bocs dal poteli llefrith,
awyr las.

Sunday 3 October 2010

nwdls

super tasty, super quality, noodle snack? ffac off swpyr nwdls, ma'r shit japanis na sy'n fy ngwneud i'n sal yn well o beth cythra'l

Dwr #2

Ma'r waliau'n sychu'n ara' deg. Bur debyg mai'r boilar fu wrth ei waith yn sgwyrtio dwr ar draws y gegin a fy lloffd. Mae o off erbyn wan sy'n golygu modi yn fy ngwely yn led-ffiaidd o ddiffyg cawod a'n buta nwdls tshiep a'n peidio ag agor fy mhotal lwcosed am i mi wybod faint o blesar y ca'i yfory o'i hagor. Dyna fywyd gwych.
Noson ddifyr fu heno, bum allan am bron i dair ar ddeg awr a gwario fy mhres i gyd. Punt a saith deg pump sydd ar ôl gena'i bellach, a dwi'n bwriadu byw bywyd llechwraidd tra'n dwyn bwyd Dic ag Elis hyd nes daw'n sdiwdant loan i i'r fei (a ni ddaw diwrnod hwnnw'n fuan gan mai ond rhyw wythnos a hannar yn ôl y gwnes i gais amdani, wpa deis wir).
Serch hynny, dwi'n olew o sobor, a wedi cyrraedd adra cyn y fintai. O be ddallda'i ma na tua pymthag o bobol yn aros yma heno (tŷ i dri, cofiwch chi) a dwi'm am ada'l yr un o'r ffycars annifyr gael fy ngwely.
Felly, yn llechwaraidd a'n hynod amddiffynol o'n ngwely dwbl, canaf ffarwel i chwi;
nos da bawb,
Iwan

Saturday 2 October 2010

Dwr

Ma walia'r sdafall ma'n socian, ma nhw'n sgleinio 'tha walia ogof, ma 'na wbath o'i le, dwi ofn boddi yn fy nhwsg.

Sunday 26 September 2010

Elis a fi yn cyd-flogio

Heddiw mi 'dwi a Elis yn eistedd ar ein soffa riclainabyl a'n cyd-flogio. Dwi'm yn siwr iawn am be mae o'n 'sgwennu, ond dwi'n siwr ei fod o'n deud wbath cas amdana'i.
Mi es allan o gwmpas Aberystwyth neithiwr a dwad adra hefo mhen yn troi a'n cario pei a pot nwdl mawr o japan. Dwi'n teimlo chydig yn fregus heddiw a tydi sbio ar y ceir ffasd yn mynd rownd a rownd am ddwyawr ddim help.
Dyna oll,
Iwan

Wednesday 22 September 2010

Llwybrau

Tridia o'r cwrs gwaith maes yma a ma'n nghrimogau i'n llosgi, och a wi dyna boen yw esgyn grisiau.

Sunday 19 September 2010

bac in town

Mi ddesh yn ôl o'n nhrafals yn dlawd a budr fel arfar ond wedi cyflawni chydig o bethau y tro yma o leia. Un o'r petha na wnes i gyflawni oedd fy nghais sdiwdant loan, a dwi wrthi'n trio sortio hwnnw ar y we wan (mi drishi ffonio ond di'r ddynas sy'n atab yn gwrando dim ar be dwi'n ddeud a'n ailadrodd 'run peth drosodd a throsodd yn ei llais robotaidd).
Nid yw hyn mor hawdd a oni'n ddisgwl. Dwi'm yn gwbod be oedd fy nghyfeirnod cwstmer, felly ma raid i mi roi fy manylion a ateb fy sicryt cwesdiyn. Y sicryt cwesdiwyn ydi "wat is ior ffefyrit miwsical instriwment?", fyswni rioed di dewis hwn fel sicryt cwesdiwn 'chos sgin i'm un, aflwyddiannus yw f'ymdrechion i'w atab.
Erbyn hyn dwi di clicio ar yr opsiwn "tshenj ior sicryt cwesdiyn", a ma'n gofyn am fy nghyfeirnod cwstmer, ag i gal hwnnw ma rhaid atab y sicryt cwesdiyn. ffyc a dyc, ebychaf.

Erbyn hyn dwi di cal gafal ar fy nghyfeirnod cwstmer drwy dyrchu yn fy nror rybish. Ateb y cwesdiwn "wot is ior ffefyrit miwsical instriwment?" oedd TYPALL84 wedi'r cyfan (ma raid modi di colli'n un i, a'i i cerdd ystwyth i chwilio am un arall fory).

Ta waeth, dwad lawr i aber ar y tren neshi heddiw, braf iawn a minna heb fod ar y cambrian côst ers lot. A mi nath na hogan dlws dlws ofyn i mi edrach ar ôl ei beic hi, ond mi odd fy nhren newydd gyrraedd a doni'm yn gallu gwaetha'r modd. Dyna oedd y peth mwya' cyffrous.

Dwi'n mynd ar drip i rhyw gors fory, joy,

Dydd da,
Iwan

Wednesday 1 September 2010

My English Alter-Ego

Trwy ddefnydd Google Translate dwi wedi creu doppelganger Sasneg, sydd yn ddyn drwg iawn (dyma linc i'w flog). Dwi'n poeni ei fod yn byw bywyd difyrrach na fi o beth cythra'l (Mae ei gyfeiriadau tuag at y "luxury Hefin Jos" yn dangos hynny)
Dyma rai o'i berlau:

Ei dactegau ffermio:
"I''ll melt small bales of acorns out there"
"be sneaky move bales in sin"

Ei deimladau am sioe Simone Felice yng Nghaerdydd:
"feel pretty bad about creating amazing discharge"

Ei helyntion yn Nolgellau:
"Eating cheese (four kinds) and crackers off the roof of a car in Dolgellau, cyrtysi of Father angry. Thank you Father."

Ei awgrymiadau ar sut i gael noson dda yng Nghaerdydd:
"listen music and drink in the Gwdihw powder"
"five sick in the toilet and try downsho with cute girls"

Ei ebychiadau difyr:
"Alas and woe, miserable place"

Ei ramantu hen ffasiwn:
"Put thy hand into my hand"

Ei feddyliau am staff sdesion drenau Shrwsbri:
"some old slebog dry old woman behind the glass."

Ei anturiaethau brwnt a ffiaidd:
"I helped me find some one very nice woman and I fushi'n gisda on that for a little cruise"

Ei ddoethinebau:
"food colonies, which can go far because the bygars requires gloves and hide under the ffrij"

Ei farddoniaeth:
"And that man was near the Boccia '
Saying that he gapden Tonga,
With a penny to my limited understanding of Cinna "
(O'i gerdd "Song Of The Capden Shipping")

Ei fywyd priodasol:
"I spend the majority of five nights with husband benign Rhyz Gwynvor"

Ei sylwadau am grefydd:
"Atheists-people who may never have tried to resist the cheese"

Ac yn olaf, pytiau o'i gampwaith serchog gontrafyrshal "The Ffenast":

"Completing each other with our gloves... Thy ana'l hot on my cheek"


Ai fel hyn y mae nhw'n byw eu bywydau dros glawdd offa?

Medi

Mai'n amsar belio yn 'rerw, a dwi'n yfad tê yn fy fesd ora ar ol treulio awran (ia, awran gyfa!) yn cario gwair a reidio ar gefn trelar. Beliwyd bron i acar, a thri tractor mawr, mawr yn y cae hefo ni, a'r cae ond yn fach, fach.
Da di amsar belio.
Ma gyna'i go o fynd i'r rasys potas pan yn blentyn a mi odda nhw'n gneud mês allan o fêls bach yno (maze, nid maize, twpsyn), a'i orchuddio hefo tarpolin. Ew mi oddi'n dywyll yno, a hwyl i'w gael yn symud bêls yn slei bech fel fod plantos yn methu dwad allan. Am sbort.
Dyna oll,
Iwan

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt? #2

Pan o'n i'n fach a'n cal witabics gin mam i frecwasd mi oni'n genfigennus o'm mrawd hynaf am ei fod o'n cael tair witabicsan bob bora a finna ond yn cael dwy.
Mi wti rhy fach, medda mam, mi fysa ti'n sal.
Rhyw fora, pan nad oedd mam o gwmpas, mi neshi rhoi tair ohonyn nhw mewn powlan a'u buta.
Chwdu odd fy hanas i.

Monday 30 August 2010

Pethau dwi di ddysgu ar ôl yfad bwmbras

1) Mae bwmbras yn fy ngwneud i'n sal
2) Mae brecwasd fy ngwneud i'n sal
3) Mae cario pethau trwm yn fy ngwneud i'n sal
4) Mae gweld brêns papier mache mewn berfa yn fy ngwneud i'n sal

Tuesday 24 August 2010

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt? #1

Ar ffor n'ol o'i dinas hi oeddwn i, ffarwel bach sydyn yn y sdeshon cyn neidio ar y tren rong. Pan gyrrhaedishi sdeshon Byrmingham mi ddudodd y dyn nad odd na drena ar ôl i fynd a fi adra heno, a bysa rhaid mi ddal tren i Wolverhamton. Hen dren bach igon del oedd o, gwag blaw amdana i a rhyw deulu bach o dramor a'r plant bach dela welishi 'rioed. Dodd gynai'm ticad na pres ond ddoth y condycdyr ddim. Dal bys wedyn i'r Shrwsbri, mi helpodd ryw ddynas glen mi ffeindio'r un iawn a mi fushi’n isda ar hwnnw am chydig oria. Pan gyrrhaesddishi mi odd y sdeshon yn wag blaw am ryw hen slebog sych o hen ddynas tu ol i'r gwydr. Mi holishi am y tren nesa adra a mi ddudodd fod na'm un tan saith o'r gloch bora wedyn. Mi eshi i deimlo braidd yn drist wedyn wrth drio ffeindio bys sdop a methu.
Eshi i grwydro 'gwmpas y dre ond mi oddi'n nos sul a mi odd bob man di cau, mi odd gyna'i bres yn fy nghownt banc a dim awydd lladd deuddag awr mewn lle mor druenus felly eshi chwilio am wely.
Mi odd y pyb lle neshi aros yn ffiaidd, eshi yno tua saith o'r gloch i holi a mi odd 'na oleuada tu mewn ond mi odd y drws di'i gloi. Wedi cnocio a chanu'r gloch dyma'r barman yn dwad at drws a gofyn be oni isho, "ai wyd laic acomydeshyn ffor ddy neit" medda finna, "ah right" medda fynta. mi esboniodd wedyn mai'r rheswm fod y drws wedi'i gloi odd fod na hwdlyms wedi bod yna chydig ynghynt, a fod na drafferthion di bod. Wedyn sylwishi ar y posdar yn deud:
"no hwdis,
no yndyr twenti-wans,
no hets,
no ffwtbol cylyrs"
Och a gwae, am le truenus. Mi dalishi'r dyn a mynd syth i'n ngwely. Dal tren am handi saith bora wedyn, a braf odd ei weld o'n llithro i fewn i orsaf yr hen dre fach lwyd.

Gwahoddiad

Pan fydd glaw yn disgyn
Gawni neud hyn?;
Datod bob dilledyn,
llam i'r llyn,
Yn lafnau gwyn,
Neu'n ddau flodyn

Monday 16 August 2010

Street Fightin' Man

Geshi fy ffeit gynta echnos, a geshi gweir gin rhywun doni'm yn nabod am ddim rheswm.
Gas gyna'i bobol sy'n rhoi cweir i mi am ddim rheswm.
That is all,
Iwan

Thursday 12 August 2010

O.N

Hefyd;
knackered ydi'r sillafiad cywir, nid nakerd, nackred, nacerd nac ychwaith nakred.

Sunday 8 August 2010

Dyddiaduron Bwmbras Tshep

Mercher, 4/8/2010:
Cyrraedd Porthmadog ben bora, prynnu bwmbras tshep (Western Gold, £10/70cl) a hip fflasg (£4.99/6oz). Cyfarfod Osian Safn Ara' a Delyth yn Port, a chyfarfod Rhys Matia' yn Nolgellau. Cael darlith am fatio gin Rhys Matia'. Mynd i Maes-B, deffro wedi codi tent mewn maes parcio. Old sporting injyri yn dychwelyd am y tro cyntaf ers rhai misoedd.

Iau, 5/8/2010: Ymweliad cynta a'r maes, canu caneuon trist ar y maes a chael row am ganu caneuon trist ar y maes. Darganfod fod Hefin Jos ddim yn licio raisins. Mynd i gig yn y nos, deffro yn y fan hefo Dei.

Gwener, 6/8/2010: Ailymweld a'r maes. Bwyta estrys a chyfarfod Elis Clwydda'. Cael bod yn Wybedog Brith am ychydig, ag Elis Clwydda' yn cael bod yn neidr. Mynd i weld Meic Sdifyns. Deud a chlywed pethau cas am ddrymar Meic Sdifyns. Atal Rhys Matia' rhag dymchwel gerddi. Cysgu yn fy nhent a fy sach gysgu newydd. Cysgu'n dda am y tro cynta ers tridia.

Sadwrn, 7/8/2010: Deffro yn nhy moethus, moethus Hefin Jones cyn mynd i'r maes. Teimlo'n sal. Cael picnic yng nghefn fan Tonto Pari. Mynd i Maes-B i ganu. Bod yn flin hefo cor Elin Fflur am ddwyn y cwrw i gyd. Cyrraedd ty moethus Hefin Jos mewn pryd i ddarganfod pwy ydi'r brenin (Hefin Jos oedd king). Coginio nŵdls yn hwyr yn nos, Osian Safn Ara' yn datblygu noodle madness, gorfod mynd i ochr arall y stafall i fwyta fy nŵdls. Mynd i gysgu yn fy mhabell.

Sul, 8/8/2010: Coup d'êtat yn y gegin hefo hand held hwfyr, Aled yw'r brenin. Glanhau y ty moethus, moethus cyn mynd am ginio. Darganfod fod sosij and mash in a jaiant iorcshiyr pwding a pheint o stella yn peri i mi golli conshysnes. Cychwyn am adra yn Fanesa ag Aled yn dreifio, disgyn i gysgu ychydig wedi cychwyn. Deffro mewn lay-by ger Aberhonddu a ffeindio Aled a Dafydd hefyd yn cysgu. Cyd-gysgu mewn lay-by am rhyw hanner awr. Cysgu mewn gwely heno.

Tuesday 27 July 2010

Poison Iwi

Dyma ddwad yn ôl o'n nrhafals, yn dlotach, yn futrach a chyda enw newydd- Iwan Gwenwyn ydwi bellach, ag Elis Clwydda ydi Elis. A dani am ddenig o dre ma a mynd am Llawr Gwlad.
Dwi'm yn cofio pam cefais y ffashwn enw, dim ond mai Rhyz Gwynvor (Rhys Ddu Gythra'l) a'i rhoddodd im, gas gin i Rhys Ddu Gythra'l.

Friday 9 July 2010

Waillin' Wil Tan & The Dukes Of Acid

Mi ddaeth 'na ganlyniada acw heddiw a dwni'm be i'w neud, unai mynd am dro i Abersoch i yfad fodca tshep (fel sy'n draddodiadol) neu ddim. 'Ma na un opsiwn arall hefyd sef mynd i Dudweiliog i weld John, Alun, Wil Tan a The Dukes Of Acid (Dyna chi lein yp). Gobeithio y gneith y Diwcs ymuno a Wil (Emyr gynt) i wneud fyrshwn acid rock o'r myddyffycy epig yma

Monday 21 June 2010

Super Turbo Rugby XV

Chwareir Super Turbo Rugby XV (SuTuRuXV) fel rygbi arferol oni bai am y rheolau isod:

1. Coch a glas yw'r unig liwiau a ganiateir i dimau SuTuRuXV eu gwisgo (oni bai am amgylchiadau arbennig, gweler cymal 1.1). Bydd pob gem yn gystadleuaeth rhwng y tim glas a'r tim coch.

1.1 Mewn rhai gemau (a gaiff eu dewis gan Bwyllgor Rhyngwladol Super Turbo Rugby XV) caniateir i un chwaraewr o dim annibynol ymuno a'r gem gan wisgo du. Caiff y chwaraewr hwn ddewis i ba dim y bydd yn chwarae neu wneud ei orau i fod yn niwsans. Fel rheol bydd hyn yn digwydd mewn gemau tyngedfenol.

2. Rhannir y gem yn bedwar chwarter o ugain munud yr un. Bydd y timau yn newid ochr gwedi pob chwarter. Yn yr egwyl rhwng pob chwarter bydd y timau yn gyfrifol am ddiddanu'r dorf gyda sgetsys, dramau byrion a chanu. Bydd tarian fechan yn cael ei gwobrwyo i'r perfformiad gorau.

3. Os bydd y bel yn taro'r postyn ar unrhyw achlysur yn ystod y gem mi fydd yn "multiball". Bydd pymtheg pel yn cael eu saethu ar hap ar faes y chwarae (gan gynnwys un bel droed, gweler cymal 3.1) a bydd yr holl chwaraewyr yn gorfod brwydro am y peli a gwedi eu cael yn eu meddiant yn pannu mynd tuag at y linell gais ac yn tirio. Wedi i bob pel gael ei thirio bydd y dyfarnwr yn cyfrifo'r pwyntiau dyledus. Ychwanegir triphwynt arall fel gwobr i'r tim sydd wedi tirio'r nifer fwyaf o beli.

3.1 Mae'r chwaraewr sydd a'r bel droed yn ei feddiant yn gorfod ei thrin fel pel droed ynghyd ac unrhyw un sy'n ceisio ei daclo. Pe bydd y dyfarnwr yn gweld unrhyw chwaraewr yn camdrin y bel droed neu'r chwaraewr sydd a'r bel yn ei feddiant caiff wobrwo ciciau cosb neu gic o'r smotyn yn dibynnu ar natur y drosedd. Amcan y chwaraewr sydd a'r bel droed yn ei feddiant yw taro'r bel gyda'i droed rhwng pyst ei wrthwynebwyr. Cedwir deubar o fenyg golgeidwad mewn bag y tu ol i'r pysd i'w defnyddio gan un chwaraewr o bob tim yn unig trwy gydol y cyfnod "multiball" pe dymuna y chwaraewyr wneud hynny. Gwobrwyir triphwynt ychanegol am "overhead kicks".

4. Os bydd y dyfarnwr yn disgyn yn ystod y gem mi fydd yn "backwards time". Bydd y cloc yn dechrau cyfri am yn ôl a bydd unrhyw bwyntiau a ennillwyd yn y cyfnod hwn yn cael eu tynnu o'r sgor. Amcan y timau yn y cyfnod hwn yw dod a'u sgôr yn ôl i ddim. Unwaith y bydd tim yn cyflawni'r nod yma bydd "backwards time" yn dod i ben, bydd y sgoriau yn cael eu hadfer i sut oeddent cyn i reolau "backwards time" ddechrau, a bydd y tim sy'n cyrraedd sgôr o ddim gyntaf yn cael ugain pwynt ychwanegol.

5. Ar y 79fed munud bydd rheolau pel droed yn cael eu defnyddio ar y maes chwarae am funud cyfan (gweler reolau pel-droed FIFA). Gwobrwyir 5 pwynt am bob gôl a sgoriwyd, a dau bwynt ychwanegol os bydd y dyfarnwr yn meddwl ei bod yn gôl ryfeddol o dda (megis scissor kicks, overhead kicks, neu ailgreadau perffaith o gôl Maradona yn erbyn Lloegr yng nghwortr ffeinals Cwpan y Byd 1986). Caniateir i'r menyg gol geidwad (gweler nodyn 3.1) eu defnyddio yn y cyfnod yma. Gwedi'r munud bydd y rheolau arferol mewn grym unwaith eto.

Friday 18 June 2010

Than Cyw Lord

Gorfoleddwch! Daeth bywyd newydd i'r ty, hernandez ydi'i enw o/hi (im yn gwbod bedi'r secs eto, ma'r peth/beth bach/fach yn dal yn yr inciwbetyr). Da wan.

Thursday 17 June 2010

hôm cymffyrts

Dwi adra bellach, a'n cronicli bôrd. Ma mhlania mesur glaswellt hefo pren mesur am ddeunaw wythnos wedi disgyn yn ddarna' am fod y farlan rhy dew. Disgwyl i'r cywion ieir ddeor ydw'i wan, dwi am alw un yn Fernando a'i ddysgu i wisgo bandana, mi gaiff ddysgu dan fy adain fel petai.
Iwan.

Friday 4 June 2010

bore da

Bore da blantos. Yn wahanol i'r arfer nid myfi, Iwan, sy'n cymeryd yr awenau heddiw, ond yn hytrach, Elis Defis o'r band enwog- Caryl Parri Jones 3000, of golwg ffêm. Dyma sydd ganddo i'w ddeud:

"Mae Iwan yn gret,
Mae Iwan yn iawn,
Mae Iwan yn gorwynt,
Yn gorwynt o ddawn."

Dyma ei englyn gynta.

Thursday 27 May 2010

batyl of ddy secsus yn y gampfa (mewn disgo)

Bachgen:
Gai roi fy llongyfarchiada',
Tydi o ond be w'ti'n haeddu,
'Chos prin mod i'n dy nabod di
Hefo colur dros dy acne,
Merch:
A chwara' teg i ti am wisgo
Dy 'sgidia downsho,
Dy nhw'm cweit yn mynd hefo dy grys tynn gwyn,
Ond ti'n well na dim am heno

Ac er fod dy lynx di'n ffraeo hefo'n ffroena'
Mi alla'i dal ogleuo'r gwersi gym dan ola' gwyn y gampfa,
Ond os ti'n downsho'r cama'n iawn
Mi gei go ar be wti isho,
'Chos dwi'n unig ag yn desbryt ers i mi gael fy nympio,

Cytgan:
Felly downsha 'fo fi,
I gorneli'r disgo ysgol,
Waltzia 'fo fi,
Ymhell o olwg yr athrawon,
Cusana fi,
Yn y gola' amryliw,
Ond nei di addo peidio deud wrth neb?

Merch:
Mi wti dipyn byrrach,
A ti'n hyllach nag oedd o,
Ond yn ei absenoldeb mi fydd rhaid i ti neud y tro,
Jysd bydd yn wr bonheddig,
Mi 'na'i gau fy llygaid a breuddwydio
Modi hefo fo, yn downsho'n slô,
Yn lle hefo chdi yn sdryglo
Bachgen:
Mi wn fod dy falchder di yn fwrn nes 'i fod o'n brifo
Merch:
Felly pam nei di'm jysd cau dy geg
a gada'l i ni ddownsho?
Bachgen:
Paid mynd ar gefn dy geffyl,
'Chos ma'i fwng o'n mynd yn feinach,
Mi 'sa'i 'senna fo yn synnu dyn
Mor dena' ydio bellach

Cytgan:
Felly downsha 'fo fi,
I gorneli'r disgo ysgol,
Waltzia 'fo fi,
Ymhell o olwg yr athrawon,
Cusana fi,
Yn y gola' amryliw,
Ond nei di addo peidio deud wrth neb?

Pryfaid

Hyd yma mi 'dwi wedi cael fy mrathu bymthag gwaith, chwe brathiad ar fy nghoes chwith, dwy frathiad ar fy nhroed chwith, chwe brathiad ar fy nghoes dde, ag un ar fy mraich dde, maent oll yn cosi 'tha bygars.
Dwi heb allu gneud dim yn ddiweddar o'u herwydd.
Gas gin i bryfaid.

Sunday 16 May 2010

och

och, tisho fflêc hefo'r bwlshit 'na iwsyn?

bora

Dyma fora eto fyth, a minnau heb fynd i gysgu, mai'n rhy hwyr bellach. Bum yn treulio'r rhanfwyaf o'r noson hefo'r gwr hynaws Rhyz Gwynvor yn sbio ar Battle Royale (Ffilmas dda cofiwch) a phethau doniol ar yr Iw Tiwb, a bum yn gwario'r gweddill mewn amball i dy tafarn yn slochian bwmbras a deud petha twp. Bum hefyd yn 'sgota brecwasd, a brecwasd a gafwyd, un da, a chwrt bach del i fynd i bî-pî ynddo hefyd. Dyna lwyddiant oedd hyn ar fore dydd sul.
A dyma Leonard yn canu im; "Look at me leonard". Yn y trydydd person y bydd Leonard yn canu im heddiw, a chanu dwfn a da ydyw, yn falm i'r enaid a minnau heb affliw o fynadd astudio ar gyfer yr arholiad a ddaw cyn pen deuddydd. Poen ydyw, a phoen fydd pe na byddai yn llwyddo i aros ar ddihun hyd at yr hwyrnos, a chysgu megis dyn call am noson. Pob lwc im.

Wednesday 12 May 2010

Can y Capden Llongau

Wedi gwario'm mhres bob dima,
Es i lawr i'r harbwr 'gosa,
I wylio'r llongau hardd yn gada'l,
Am y gora' tua'r gorwel.
Heno'n gorffwys wrth fy ngartra,
Yfory ymhell ar draws y tonnau,
Oddi wrth y crud a'r cartra clyd,
I'r ddinas wen sy'm mhen draw'r byd.

O na chaf i hel fy mhetha'
A mynd yn was i'r capdan llonga',

A dyna ddyn oedd ar bwys y docia'
Yn deud ei fod o'n gapden llonga,
Hefo ceiniog brin i'm tywys inna
Dros y don i'r bywyd nesa,
A dan hwylia duon awn dros y don,
Picelli arian a tharian drom,
Yn lancia ifanc, hardd a hy,
Awn drwy y porth sy'm mhen draw'r byd.

A dyna'r hogia i gyd yn gada'l,
Dros y don mewn llonga' rhyfal.

Cofiwch lancia' peidiwch chitha
Mynd law yn llaw a'r capdan llonga'.

Monday 10 May 2010

10/2009

Bwthyn bach ar ben ei hun,
Drws bach coch a walia' gwyn,
Yr ardd yn llawn o floda',
A'r nos yn llawn o syna',
A phan ddel y lleuad gwyn i godi,
Fydd na'm angan digalonni,
Gad dy fyd i gyd yn y gwely,
A mi awn i gerddad hefo'n gilydd.

Saturday 8 May 2010

Y Ffenast

Mai'n cribo ei gwallt wrth y ffenast,
Ei ll'gada a'i gwefusa hi'n goch,
Mai 'di gwisgo yn ei chotwm gora'
A mae'r heulwen yn wyn ar ei boch,
Ac wrth guddio'i llygaid rhag y gola'
Mai'n troi i sbio arna i,
A mai'n sibrwd fel nad ydwi'n clwad,
Rhyw eiriau amdanom ni.

A mai'n deud;
"Awni am dro i ben y brynia,
I ni gael gweld y byd,
Pan fydd y gwynt yn llawn o ogla'r ha'
A'n ffrog i'n wyn i gyd,
Gawni ddenig hefo'n gilydd,
Croesi'r stryd yn ngolau'r lloer,
A'r gwynt yn llawn o ogla'r ha',
A r'un ohonani'n oer"

Ond pan fydda i yn mynd allan,
Mi 'na'i ddisgyn mewn cariad 'fo pob un hogan ddel,
A phan fydda i'n dwad adra
Ma'r gwely yn oer a'r gwylanod yn crio
Y busdi'n cribo dy walld wrth y ffenast,
Dy lygaid, dy wefusa' di'n goch,
A thynnu dy ffrog gotwm ora',
Dy ana'l yn boeth ar fy moch.

Friday 7 May 2010

Ceffyla' ar d'ranna

Ceffyla' ar d'ranna,
Codi cyn bora,
Fydd na fyth ddigon i'w bwydo nhw'n fama,
Draw dros y brynia,
Tylla mewn 'sgidia,
Gadael heb glywad eu lleisia am y tro ola'.

Lleuad yn esgyn,
Lleuad yn disgyn,
A'r dydd yn ei ganlyn.

Ceffyla' ar d'ranna,
Codi cyn bora,
Dy gartra i gyd yn dy gôl,
O'r gwely rhy gynnar,
Trydar yr adar,
Heb galon lon i'w galw'n ôl.

Haul ar y mynydd,
Haul ar y môr,
A'r nos ar ei ôl o.

Corff dan y cynfas,
Mai'n glyd a mai'n gynnas,
Y cyrtans di cau rhag y llwch,
Draw yn y dyffryn,
Mae hi'n fain fel y blodyn,
Breuddwyd pob hogyn sy'n galw am groen yn ei gwsg.

Lleuad yn esgyn,
Lleuad yn disgyn,
A'r dydd yn ei ganlyn.

Haul ar y mynydd,
Haul ar y môr,
A'r nos ar ei ôl o.

Thursday 6 May 2010

Dyddia' du a dyddia gwyn

Dyddia' du a dyddia' gwyn,
Ma' nhw'n dod a ma' nhw'n mynd,
Fel gweddiau ar y gwynt,
Duw a wyr be ddaw ohonynt,

A mi gawn ninna' yn eu lle nhw,
Awyr las a gwyn i'w chadw,
Can yr eos a chan y gwcw,
A'n canu ninna' heddiw,
Mi gana inna, cana ditha,
Coda'r gwynt a coda'n hwylia,
Mi goda'r haul a mi goda'r lleuad,
A mi gyfrai'r dyddia' ar fy mysadd,

Dyddia' du a dyddia' gwyn,
Coda law fel ma' nhw'n mynd,
Yn hada' cyn yr hydref a'n floda cyn yr haf,
Ma' nhw'n canlyn angau cyn y gaeaf

Friday 30 April 2010

Cyflwyniad a gair byr am gadeiria a'r meirw byw.

Mai wedi amsar cysgu a dwi am ddechra hwn achos modi'n meddwl y gneith helpu i mi ddechra sgwennu eto. Duw a wyr modi angan rhywbeth i'w neud rhwng dysgu am gefn gwlad a lladd zombies ar yr ecs-bocs, er modi'n joio lladd zombies yn fawr ac erbyn hyn wedi ffurfio cynllun petai'r zombie apocolups yn dwad (shotgyn, pasdwn a ras i ben wyddfa os oes gin rywun ddiddordab).

Ar wahan i'r meirw byw, cadeiria fu ar fy meddwl drw gydol y nos, a mi dwi di hen feddwl y byddai'n gallu rhoi trefn gall ar fy mywyd taswni ond yn cal cadair braf i hel meddylia ynddi, a 'mwriad ydi mynd i kraft i chwilio am un bora ma ,cyn i mi ddal tren adra, i mi gael ei defnyddio yn y ty newydd. Mi fysa'n dda gen i gal un fawr, feddal a rhad, ond ma petha o'r fath, boed gadair neu ddim, yn anodd i'w cael.

O.N Tydi coffi-mêt lait im yn blasu ddim gwahanol i'r un arferol chwaith gyda llaw, er i mi fod yn gyndyn o'i brynnu.