Myfi yw ceidwad yr Erw am ddeuddydd. Duw yr ieir a'r defaid a'r hors am ddeuddydd, ac unig gyfaill Melani Myrî a Twm Ci Da. Dim trafferthion hyd yma, mae Twm Ci Da ddigon bodlon yn gorfadd o flaen y stôf os dio'n cael cyfle i fynd i sniffio lle bisodd o neithiwr bob hyn a hyn. A Melani Myrî yn ddigon bodlon fy nilyn o gwmpas y cae wrth i mi fwydo'r ieir a'r defaid a mwytho'r hors. Oen llywath ydi Melani Myrî ond ma hi'n ymddwyn fel ci bach. Mae mam yn deud nad ydi hi'n gwbod mai Dafad ydi hi, dwni ddim am hynny, ond bwyd defaid mai'n fwyta a dwi'n tybio ei bod dalld y petha ma'n well na mam.
Fel arall, fi sydd yn cynnau'r tan ac yn hwylio'r tê ac. A fi sy'n gyrru hen fotor Glyn 'Rerw o gwmpas. Mae o fel sbêship o gymharu a'r hen fotor glas. Ma'n mynd whizzzzzzzzz yn ffyrst.
A ma'r lle yn berwi o wyau, dwnim sut mae disgwyl imi fwyta wyth ŵy y diwrnod. Ond dwi'n trio.
Thursday, 12 April 2012
Sunday, 8 April 2012
Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #7 (I filled my head with rudding stunche)
I filled my head with rudding stunche. Nid fy mai i oedd o. Bai'r jar oedd o. A mi fydd raid i mi fynd i sefyll yn y môr i gael 'madael o'r ffasiwn rwdins.
Saturday, 31 March 2012
Cacennau a choffi
Myfi ysydd ddyn sy'n bwyta cacennau yn y bore, ac yfed coffi a smocio sigarènau. Myfi ysydd ddyn nad ydyw'n byw yn iach.
Ond (ew!) mi dwi'n cael sbort yn gwneud.
A gwae chi eich byw.
Ond (ew!) mi dwi'n cael sbort yn gwneud.
A gwae chi eich byw.
Thursday, 22 March 2012
Vest Intentions
Och a wi! Gŵr truenus wyf. Myfi sydd â deg fesd wlyb, heb na thymbl drei na gwres yn y tŷ, gwae! Y mae lein ddillad y tu allan, ond mae hi'n nosi, a beth fyddai'r gwŷr a'r merched sy'n byw o boptu im yn feddwl o weld deg fesd wen yn chwifio yn y gwynt?
"Dyma ddyn cry' sy'n curo'i wraig a'i frodyr yn ddi-drugaredd, gwyddom hyn o'r fysd"
Dyna, mi wn, fyddai eu casgliad.
Ond myfi ysydd gyfrwys, gŵr â blynyddoedd o brofiad o guddio fysd rhag llygaid busneslyd. Myfi a rwymodd ddeuben o gortyn, un pen i'r ffenestr ac un pen i'r wal, ac ohoni hongian deg fesd wleb. Yr wyf yn awr yn byw mewn ystafell motel, myfi sydd ŵr cyfrwys a thruenus.
Yn fy motel dwi'n disgwyl am y greyhound aiff a fi tua'r môr, a physgod. A sefyll mewn pyllau mewn sgidiau canfas.
"Dyma ddyn cry' sy'n curo'i wraig a'i frodyr yn ddi-drugaredd, gwyddom hyn o'r fysd"
Dyna, mi wn, fyddai eu casgliad.
Ond myfi ysydd gyfrwys, gŵr â blynyddoedd o brofiad o guddio fysd rhag llygaid busneslyd. Myfi a rwymodd ddeuben o gortyn, un pen i'r ffenestr ac un pen i'r wal, ac ohoni hongian deg fesd wleb. Yr wyf yn awr yn byw mewn ystafell motel, myfi sydd ŵr cyfrwys a thruenus.
Yn fy motel dwi'n disgwyl am y greyhound aiff a fi tua'r môr, a physgod. A sefyll mewn pyllau mewn sgidiau canfas.
Sgwarnog
Fi di’r sgwarnog hirgoes coch,
Clyw ‘nwy gloch wrthi’n canu,
Dau faen melin yw fy mhwn,
Dwi’n maeddu milgwn Cymru,
Fi di’r gwynt yn y coed a’r haul ar
dy war,
Gin i gar sy’n barod i gychwyn,
Os sgin ti faich fydd o’m byd i mi,
Dwi’n gry’, cariad, paid poeni,
Gin i glust, gin i air, gin i grud, gin i fedd,
Gin i goes, gin i fraich, gin i wefus, gin i geg,
Mae otsh gin i bwy, di’m otsh gin i lle,
‘mach i, i be’r ai boeni?
Fi di’r sgwarnog hirgoes coch,
Clyw nwy gloch wrthi’n canu.
Wednesday, 21 March 2012
Aderyn Bach
I be’r awn i godi hiraeth?
Da ni di bod ffor’ma gan gwaith o’r blaen,
Y deryn bach uwchben y tŷ,
A’r hyn a ddaw o un llaw i’r llall
Yn ddall hyd ddillad y gwely.
I be’r ei di i godi hiraeth?
Gan gwaith bum yma, gan gwaith y dof eto,
Fel y deryn bach wrth ddrws y tŷ,
A ddaeth yn syth o lygad haul,
A’i gael ar agor imi.
Plu ‘deryn bach ar wely’r plas,
O loriau’r tŷ hyd at y tô
I be’r ai i godi hiraeth?
Do’ni ddim gwaeth a thrio
dofi aderyn o latai,
Sy’n torri angor i fynd trwy’r ddôr,
Yn wyllt fel môr a’n ddi-fai.
Ble’r ei di, yr hen dderyn bach?
At rywun i dorri dy galon,
Gad y coed, a gad y caeau,
Gad rhyw farc ar f’adain inna,
Ble’r ei di yr hen dderyn bach?
Sunday, 18 March 2012
Subscribe to:
Posts (Atom)
