Wednesday 30 November 2011

Rysait Cawl Stwnsh Cwningod

Clywais sôn lawer gwaith am allu cwningod i fagu cwningod, ond erioed nis brofais hyn i'r ffasiwn raddfeydd ac y profais tra'n coginio cawl stwnsh cwningen hefo Aled, y brawd hynaf, ychydig wythnosau yn ôl.

Glyn 'Rerw a Sian Glyn 'Rerw roddodd inni'n anrheg (neu'n wynepwerth, hwyrach, am iddynt ein hel ymaith o'r tŷ i fyw ar ochr mynydd niwlog) gwdyn ac ynddo dwy gwningen. "Dew ogs, mi wna dam't i futs tshamps i lanwi'r bolws heno" me'r brodyr, a minnau a ddywedodd; "ew, pops, cwningod mawr ydy'r rhai hyn", ac yntau a ddywedodd; "Im felly", ac fe aethpwyd a'r cwdyn cwningod yn ôl i'n cartef ar ochr mynydd.

Gwedi berwi'r dŵr, a gosod ynddo nionod (Aled a'u torrodd, yn rhy fras o beth cy'thral yn fy nhyb i) a phob mathau o hyrbs a sbisys, agorwyd y cwdyn cwningod a gosod dwy gwningen yn y crochan berwi cwningod. "Brenin" me' Aled yr hynaf "Y mae yma gwningen arall yn y cwd!", a dyna ei thaflu hi i'r crochan gyda'r gweddill. Wrth gwrs, bu chwerthin mawr am gamgymeriad Glyn 'Rerw a Sian Glyn 'Rerw yn rhoi tair cwningen yn hytrach na dwy, a bu craffu yn y cwdyn rhag ofn bod mwy yno. Ond ofer fu hynny.

Gwedi berwi'r cwningod dyma eu codi o'r crochan berwi cwningod a'u gosod yn ddel i mi ac Aled 'Rhyna eu cerfio. Dyma fi ac Aled yn cerfio. Gwedi cerfio cwningen yr un, aeth Aled ar ei union i gerfio'r drydydd am ei fod yn gynt na mi am gerfio. A dyna gerfio'r drydedd cwningen. A gwedi hynny dyna graffu i fewn i'r crochan i weld beth fyddai galla i'w neud hefo'r jiws cwningan a winwns a oedd yn trigo yno. "Hurclas!" ebychwyd, daeth cwningen arall i'r fei o'r dyfnderoedd.

A dyna chwethin a fu, dwy i'r cwd a thair allan, tair i'r crochan a phedair allan, dyna chi gwningod! (Er na soniais wrth Aled ar y pryd, rhag peri ofn arno, roeddwn yn pryderu am yr hyn fyddai'n digwydd wedi i ni rhoi'r pedair cwningen yn ein boliau. Dim byd a ddigwyddodd, diolch i'r nef).

Y noson honno cafwyd gwledd o stwnsh cawl cwningen, a oedd ychydig bach yn crap er fod y cig yn dda, a rhoddwyd gweddill y stwnsh cawl cwningen yn y rhewgell. Am fod dwywaith cyngymaint o gwningod a'r disgwyl, roedd gormodedd ohono. Mae dal yno hyd heddiw.

A dyna sut mae gwneud cawl stwnsh cwningen.

No comments:

Post a Comment