Mae'r dolig yn dynesu. Gwyl y cig. Eleni, fel pob blwyddyn, mae Dei y Canol yn mynnu cael twrci. "Traddodiad ydyw!" dyna'r gri sy'n atsain hyd muriau'r Erw, y mae'n bytheirio, yn mynnu cael ei gig, toes gan Sian Glyn 'Rerw ddim ffordd o'i dawelu. Ond, myfi ysydd ddiplomat dawnus, dywedaf "Hurclas Dafydd! Gwell baw isa'r doman ar y bwrdd na thwrci! Gwell cnoi ar bith bambŵ nac ar fronnau sychion y moelieir!". Be haru'r hogyn hwn o gefn gwlad yn cefnu ar ŵydd ei gyndeidiau i hel ei dam't i futs gin dyrcwn 'Mericia? Ond er cryfder fy nadl nid oes modd ei ddarbwyllo.
Eto eleni, ni fydd lle i benelin wrth y bwrdd. "I lwyddo rhaid cael cig" yw'r gri, ond gormod o bwdin dagith Iwi. Mi fydd yna dwrci i Dafydd Ben Pastwn, gŵydd i wŷr gwaraidd, samŵn i'r hen ŵr, crustmas ham i'r hogyn hynaf, eilydd gimwch, yr emyrjynsi becyn cyfyrd mîts. Nid oes lle yn fy 'stumog i'r ffashiwn ddemocratiaeth wrth y bwrdd bwyd. Mi fydd yn ddiwedd arna'i.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment