Ganwyd Iwan yn Ysbyty Brynberyl, Pwllheli, ar ddydd Gwener, Awst 11, 1989, gan sboilio steddfod ei fam a'i dad.
Ers hynny bu'n byw yn yr wythdegau, y nawdegau, y dim dimau, yr arddegau, yr ugeinfed ganrif, yr unfed ganrif ar hugain ac yr ail a'r trydydd mileniwm AD, a tydio dal yn deall dim am y llanw mawr hallt.