Mawrth: Cyrraedd, gwlychu'r pig fel petai, a hel y pegia am maes-b. Och a wi, ifanc ydynt, a minnau'n hen a meddw.
Mercher: Deffro mewn tent mewn adlen carafan, od. Mynd a'r babell las i'w chodi yn y maes ieuenctid. Pot nwdl o'r gorlan a iselder dwys i ganlyn. Hynafol wyf. Mi ddechreuodd fy nghefn frifo yn y gig, ac yna bum yn sal trwy fy ngheg wedi i mi yfad rhyw shit. Och, hynafol wyf!
Iau: Dechrau gwael wrth ddeffro yn y maes ieuenctid. Ond wele! Addewid o fecryll a ddaeth dros y gwifrau. Da yw'r dydd sy'n gwmni i addewidion am bysgod. Brasgamu i'r maes yn ffyddiog. Yno dysgais gan gyfaill agos fy mod wedi gaddo canu can ar y maes o fewn hanner awr. "Twt y baw!" me' fi, "yfory mae, yn fy nyddiadur heddiw gwelaf ddim ond y gwethfawrogiad o'r addewid o fecryll". Ond gwae, gwir ydoedd! Dyna hanner awr o geisio cael gafael ar gitar, hithau ym meddiant y brawd canol, a hwnnw'n gyrru Jake le Moto ar gyfeiliorn (neu ar goll) ar gyrion y dref. Eich arwr aeth ar ei union i chwilio, a ffonio, ac ymbilio. Yn ofer, a'n ddiangen, daeth y brawd canol i'r fei. Popeth yn iawn, cenais, a holais fwy am fecryll.
Gwener: Deffro mewn carafan. Brasgamu i maes-b. Yno 'roedd mecryll, mecryll, mecryll di ri! Bwytais un, hyfryd iawn, yna cysgais a nid oedd mwy o fecryll im wedyn. (dysgais wedyn, i mi sibrwd yn fy nghwsg, yn annwyl iawn, wrth y brawd hynaf nad oeddwn a'r awydd i fwyta pysgodyn arall, ac y caiff yntau fy siar i o weddill y bwyd. Ni allwn ddadlau).
Sadwrn: Du, du iawn yw'r dydd heb fecryll. Ta waeth, dyfal donc me 'fi, a mi es ar fy mhen i ganol y dre i wylio pobol yn canu yn lle cymdeithas yr iaith. Gwedi iddynt orffen am hanner nos, mi lanwodd y lle, a daeth miwsig dans a drym and bês ar y tanoi. Ffwrdd a ni ar ben y bwrdd i neud bwgis. Wedyn lawr grisiau i neud bwgis i glasuron o'r wythdegau. Dyna hwyl yw gwneud bwgi.
Sul: Och! Fy nghluniau annw'l. Allai'm handlo hyn. Denig adra ar hyd ffordd ddeuol. Da bo wrecsam.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment