Thursday 16 February 2012

Draw Dros y Mynydd

A deimli di'r byd yn llonyddu
Lle ma'n cyrff ni ynghlwm hefo'r tir?
Lle ma'r dail sydd dan droed
'Di bod yno erioed,
Mi wn ers tro byd 'u bod nhw'n wir,
Ond mae 'na fleiddiaid draw dros y mynydd,
Mi glywais fod 'na dir sydd ar dân tu ôl i'r drws,
Fod 'na lwybrau sy'n mynd
Tua'r trefi mawr gwyn,
Hefo'u llongau a'u tyrrau tlws.

Mi a'i, mi a'i f'annwylyd,
Lle na alli di'n nilyn i,
Mae olion y crud yn farw a'n fud
Ond mae'r byd ma'n eiddo i mi,
Ac i mi, i mi yn unig
Y daw pob cyffyrddiad fel golau gwyn,
Mi a'i, mi a'i f'annwylyd,
A d'adael di fel hyn.

Mi a'i, mi a'i dros y mynydd,
'Chos fod na ysfa ynof o hyd,
Mae gwaed angen gwaed,
A chorff angen corff,
A mae'r galon yn galw am gig.


Mi a'i, mi a'i f'annwylyd,
Lle na alli di'n nilyn i,
Mae olion y crud yn farw a'n fud
Ond mae'r byd ma'n eiddo i mi,
Ac i mi, i mi yn unig
Y daw pob cyffyrddiad fel golau gwyn,
Mi a'i, mi a'i f'annwylyd,
A d'adael di fel hyn.

'Chos nei di'm clywed cyrn hen angylion,
Yn canu sol-ffa uwch dy grud,
Mi gei fŵg, neu bridd,
Neu haearn, neu bren,
Ond fydd 'na neb o dy flaen ar yr orsedd fawr wen,
'Chos da ni'n gw'bod yn iawn
Fod na'm byd y tu ôl i'r llen
A'r unig achubiaeth sydd ar gael ar y byd
Ydi'r un sy'n cysgu rhwng coesa'r morynion,
A sydd yn dân ar dy groen di drwy'r nos,
A mai dyna oedd bryd
Dy gyndeidiau i gyd,
O'r un gell hyd at Iesu Grist


Mi a'i, mi a'i f'annwylyd,
Lle na alli di'n nilyn i,
Mae olion y crud yn farw a'n fud
Ond mae'r byd ma'n eiddo i mi,
Ac i mi, i mi yn unig
Y daw pob cyffyrddiad fel golau gwyn,
Mi a'i, mi a'i f'annwylyd,
A d'adael di fel hyn.

Friday 10 February 2012

Llundain

Daeth y rhyngrwyd i Fiw 'Mi o'r diwadd, a daeth hen bryd i ail-afael yn y blog yma. Dyma hanes dau drip diweddar i Lundain.

Y trip cyntaf: Mynd ar fy mhen fy hun yr oeddwn. Dyna ddal trên o Fangor, a chyrraedd heb na llety na bêrings oddeutu awr a hanner cyn i'r haul fachlud. Gwedi holi'n ofer mewn nifer o dai potas a thai llety ffeindiais, trwy frawdgarwch tafarnwr, dŷ llety mawr ffiaidd am bymtheg punt y noson a pheint am ddim. Mi o'dd yn o lew, a chyn i mi gael cyfle i brofi sbrings y gwely llyncwyd fi mewn sgwrs gyda merch benfelen o Latvia a dyn ar ei gwrcwd o'r Awstralia. Roedd y gŵr ar ei gwrcwd yn ymadael yn fuan yn ôl pob son, a mi o'dd benfelan am i mi gadw cwmni iddi. A myfi, ŵr hael a rhadlon, ddywedodd y down yn ôl wedi i mi gael tamaid o swpar. Gwedi cael swpar bychan a dychwelyd roedd benfelan wedi mynd, wedi cael cynnig gwell amwni. Felly mi es i'r tŷ potas i weld f'annwyl Fessi a f'annwyl Ôzil yn chwara ffw'bol. Darganfyddais mai anfantais y peint am ddim oedd fod rhaid gwrando ar Nickelback ar y tanoi. Nid oes dianc rhag Kroeger, y mae fel pla ar fy myw. Hefyd, bu tarfu ar y ffw'bol hanner amser er mwyn i bobol gael cystadleuaeth ddawnsio.

Deffroais a chroen fy ngwefus am fy nannedd. Gwisgais gan drio peidio deffro'r degau yn yr un 'stafell a mi. Yna bum yn edrych ar y map i ddod i nabod fy ffordd o gwmpas y ddinas ac i gael gwybod i ba gyfeiriad 'roedd y gogledd. Gadewais fy llety rhad am saith y bora a mynd ar fy mhen i siop i brynnu pop. Yna es i gerdded trwy Regent Park yn y glaw. Myfi sydd ddramatig.

Tua diwedd fy nhrip cerddais fewn i dŷ potas Sbaeneg, ac yno roedd gŵr Sbaeneg yn canu'r gitar yn y gornel, dyn clên ydoedd. Ac yno y bum wedi hynny yn sgwrsio gyda dyn o Sri Lanka, a dyn o Dde'r Affrig a'r gŵr Sbaeneg. Wedi hynny daliais drên i Fangor i gael KFC.

Ar yr ail drip cefais gwmni f'mrodyr, Aled 'Rhyna' a Dei Thyrti Êt Twenti Ffôr (Dyna faint ei drowsus), a gweddill y band nad sydd yn perthyn im. Canu mewn capel yr oeddem, a mi aeth yn dda. Yn ôl y son yr oedd yna secret passage a hidden garden yn y capel, ond ofer fu f'ymdrechion i'w darganfod. Treuliwyd y rhanfwyaf o'r penwythnos yn casglu pwyntiau a fathwyd yn Daddy Points. Dyma restr o'r campau gŵrywaidd a wnaed ar eu cyfer;

1. Dei Dei Thyrti Êt Twenti Ffôr yn ennill deg pwynt am yrru saith awr i'r ddinas, a phump ychwanegol am faint ei drowsus. Hefyd y fo drefnodd ein llety, dyna ddeg arall.

2. Myfi ac Aled 'Rhyna yn cael pum pwynt yr un am aros ar ein traed yn hwyr yn yfad cwrw budur. Daeth deg pwynt arall im wrth ddarganfod llwybr gwell ar y system danddaearol i fynd o Wemblwy i Islington, a cafodd Aled bum pwynt am gynorthwyo.

3. Pum pwynt i Dei am drefnu cyfarfod yn y cyntedd am chwarter i wyth gan sicrhau ein bod yn cyrraedd o leia awr a hanner yn gynnar. Pump yr un i Aled a minnau am nafigetio i'r stesion yn ddi-ffwdan.

4. Collodd Aled bum pwynt am anghofio gwefru ei ffôn grand er mwyn cael cwmpawd, ond yn eu hadfer wrth awgrymu defnyddio'r haul i wneud hynny. Colli pump am fethu gwneud hynny, a phump i minnau am lwyddo.

5. Myfi sy'n colli pum pwynt am fethu bwta swper am i mi fod yn fflopian fel wendi wrth feddwl am yrru adra. Ond dyna adfer fu wrth i mi yrru'r holl ffordd o Lundain i Firmingham mewn lluwch eira, heb weld y lanes ar y motorwê yr holl ffordd bron. Deg arall i Iwan. Gorfu i ni stopio wedyn mewn services am fod y storom eira'n gwaethygu.

6. Un pwynt i mi am gael Angus Whopper ar fy mhen fy hun, a deg i Aled am gymeryd yr awennau a manteisio ar ysbaid yn yr eira a chyrraedd yr Amwythig.

7. Deg i mi am yrru ar y lôn waethaf a welwyd erioed, yn drwch o rew ar hyd ffyrdd cul a serth y gororau i'r Bala. Ac un pwynt ychwanegol am frolio gwneud hynny ac yna smocio sigarèt marlboro.

8. Pum pwynt i Dei am yrru gweddill y ffordd yn ddi-ffwdan ar hyd lonydd call.

Felly, ar ddiwedd y trip, dyma oedd y canlyniadau'r Daddy Points:

Dei: 35
Aled: 25
Eich Arwr: 41

Ond y peth pwysig ydi ein bod ni'n tri yn ŵyr hynod ŵrllyd a gŵrywaidd. Ac yn haeddu cael mwstashus seremoniol a locsynau achlysurol.

Y penwythnos yma byddem yn dychwelyd i Lundain, a mi fydd Aled Fwyaf yn gyrru yno ac yn ôl gan sicrhau monopoli ar y Daddy Points. Y mae'n haeddu buddugoliaeth ar ôl ei berfformiad siomedig y penwythnos diwethaf.