Monday 21 June 2010

Super Turbo Rugby XV

Chwareir Super Turbo Rugby XV (SuTuRuXV) fel rygbi arferol oni bai am y rheolau isod:

1. Coch a glas yw'r unig liwiau a ganiateir i dimau SuTuRuXV eu gwisgo (oni bai am amgylchiadau arbennig, gweler cymal 1.1). Bydd pob gem yn gystadleuaeth rhwng y tim glas a'r tim coch.

1.1 Mewn rhai gemau (a gaiff eu dewis gan Bwyllgor Rhyngwladol Super Turbo Rugby XV) caniateir i un chwaraewr o dim annibynol ymuno a'r gem gan wisgo du. Caiff y chwaraewr hwn ddewis i ba dim y bydd yn chwarae neu wneud ei orau i fod yn niwsans. Fel rheol bydd hyn yn digwydd mewn gemau tyngedfenol.

2. Rhannir y gem yn bedwar chwarter o ugain munud yr un. Bydd y timau yn newid ochr gwedi pob chwarter. Yn yr egwyl rhwng pob chwarter bydd y timau yn gyfrifol am ddiddanu'r dorf gyda sgetsys, dramau byrion a chanu. Bydd tarian fechan yn cael ei gwobrwyo i'r perfformiad gorau.

3. Os bydd y bel yn taro'r postyn ar unrhyw achlysur yn ystod y gem mi fydd yn "multiball". Bydd pymtheg pel yn cael eu saethu ar hap ar faes y chwarae (gan gynnwys un bel droed, gweler cymal 3.1) a bydd yr holl chwaraewyr yn gorfod brwydro am y peli a gwedi eu cael yn eu meddiant yn pannu mynd tuag at y linell gais ac yn tirio. Wedi i bob pel gael ei thirio bydd y dyfarnwr yn cyfrifo'r pwyntiau dyledus. Ychwanegir triphwynt arall fel gwobr i'r tim sydd wedi tirio'r nifer fwyaf o beli.

3.1 Mae'r chwaraewr sydd a'r bel droed yn ei feddiant yn gorfod ei thrin fel pel droed ynghyd ac unrhyw un sy'n ceisio ei daclo. Pe bydd y dyfarnwr yn gweld unrhyw chwaraewr yn camdrin y bel droed neu'r chwaraewr sydd a'r bel yn ei feddiant caiff wobrwo ciciau cosb neu gic o'r smotyn yn dibynnu ar natur y drosedd. Amcan y chwaraewr sydd a'r bel droed yn ei feddiant yw taro'r bel gyda'i droed rhwng pyst ei wrthwynebwyr. Cedwir deubar o fenyg golgeidwad mewn bag y tu ol i'r pysd i'w defnyddio gan un chwaraewr o bob tim yn unig trwy gydol y cyfnod "multiball" pe dymuna y chwaraewyr wneud hynny. Gwobrwyir triphwynt ychanegol am "overhead kicks".

4. Os bydd y dyfarnwr yn disgyn yn ystod y gem mi fydd yn "backwards time". Bydd y cloc yn dechrau cyfri am yn ôl a bydd unrhyw bwyntiau a ennillwyd yn y cyfnod hwn yn cael eu tynnu o'r sgor. Amcan y timau yn y cyfnod hwn yw dod a'u sgôr yn ôl i ddim. Unwaith y bydd tim yn cyflawni'r nod yma bydd "backwards time" yn dod i ben, bydd y sgoriau yn cael eu hadfer i sut oeddent cyn i reolau "backwards time" ddechrau, a bydd y tim sy'n cyrraedd sgôr o ddim gyntaf yn cael ugain pwynt ychwanegol.

5. Ar y 79fed munud bydd rheolau pel droed yn cael eu defnyddio ar y maes chwarae am funud cyfan (gweler reolau pel-droed FIFA). Gwobrwyir 5 pwynt am bob gôl a sgoriwyd, a dau bwynt ychwanegol os bydd y dyfarnwr yn meddwl ei bod yn gôl ryfeddol o dda (megis scissor kicks, overhead kicks, neu ailgreadau perffaith o gôl Maradona yn erbyn Lloegr yng nghwortr ffeinals Cwpan y Byd 1986). Caniateir i'r menyg gol geidwad (gweler nodyn 3.1) eu defnyddio yn y cyfnod yma. Gwedi'r munud bydd y rheolau arferol mewn grym unwaith eto.

No comments:

Post a Comment