Mi ddesh yn ôl o'n nhrafals yn dlawd a budr fel arfar ond wedi cyflawni chydig o bethau y tro yma o leia. Un o'r petha na wnes i gyflawni oedd fy nghais sdiwdant loan, a dwi wrthi'n trio sortio hwnnw ar y we wan (mi drishi ffonio ond di'r ddynas sy'n atab yn gwrando dim ar be dwi'n ddeud a'n ailadrodd 'run peth drosodd a throsodd yn ei llais robotaidd).
Nid yw hyn mor hawdd a oni'n ddisgwl. Dwi'm yn gwbod be oedd fy nghyfeirnod cwstmer, felly ma raid i mi roi fy manylion a ateb fy sicryt cwesdiyn. Y sicryt cwesdiwyn ydi "wat is ior ffefyrit miwsical instriwment?", fyswni rioed di dewis hwn fel sicryt cwesdiwn 'chos sgin i'm un, aflwyddiannus yw f'ymdrechion i'w atab.
Erbyn hyn dwi di clicio ar yr opsiwn "tshenj ior sicryt cwesdiyn", a ma'n gofyn am fy nghyfeirnod cwstmer, ag i gal hwnnw ma rhaid atab y sicryt cwesdiyn. ffyc a dyc, ebychaf.
Erbyn hyn dwi di cal gafal ar fy nghyfeirnod cwstmer drwy dyrchu yn fy nror rybish. Ateb y cwesdiwn "wot is ior ffefyrit miwsical instriwment?" oedd TYPALL84 wedi'r cyfan (ma raid modi di colli'n un i, a'i i cerdd ystwyth i chwilio am un arall fory).
Ta waeth, dwad lawr i aber ar y tren neshi heddiw, braf iawn a minna heb fod ar y cambrian côst ers lot. A mi nath na hogan dlws dlws ofyn i mi edrach ar ôl ei beic hi, ond mi odd fy nhren newydd gyrraedd a doni'm yn gallu gwaetha'r modd. Dyna oedd y peth mwya' cyffrous.
Dwi'n mynd ar drip i rhyw gors fory, joy,
Dydd da,
Iwan
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment