Tuesday 24 August 2010

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt? #1

Ar ffor n'ol o'i dinas hi oeddwn i, ffarwel bach sydyn yn y sdeshon cyn neidio ar y tren rong. Pan gyrrhaedishi sdeshon Byrmingham mi ddudodd y dyn nad odd na drena ar ôl i fynd a fi adra heno, a bysa rhaid mi ddal tren i Wolverhamton. Hen dren bach igon del oedd o, gwag blaw amdana i a rhyw deulu bach o dramor a'r plant bach dela welishi 'rioed. Dodd gynai'm ticad na pres ond ddoth y condycdyr ddim. Dal bys wedyn i'r Shrwsbri, mi helpodd ryw ddynas glen mi ffeindio'r un iawn a mi fushi’n isda ar hwnnw am chydig oria. Pan gyrrhaesddishi mi odd y sdeshon yn wag blaw am ryw hen slebog sych o hen ddynas tu ol i'r gwydr. Mi holishi am y tren nesa adra a mi ddudodd fod na'm un tan saith o'r gloch bora wedyn. Mi eshi i deimlo braidd yn drist wedyn wrth drio ffeindio bys sdop a methu.
Eshi i grwydro 'gwmpas y dre ond mi oddi'n nos sul a mi odd bob man di cau, mi odd gyna'i bres yn fy nghownt banc a dim awydd lladd deuddag awr mewn lle mor druenus felly eshi chwilio am wely.
Mi odd y pyb lle neshi aros yn ffiaidd, eshi yno tua saith o'r gloch i holi a mi odd 'na oleuada tu mewn ond mi odd y drws di'i gloi. Wedi cnocio a chanu'r gloch dyma'r barman yn dwad at drws a gofyn be oni isho, "ai wyd laic acomydeshyn ffor ddy neit" medda finna, "ah right" medda fynta. mi esboniodd wedyn mai'r rheswm fod y drws wedi'i gloi odd fod na hwdlyms wedi bod yna chydig ynghynt, a fod na drafferthion di bod. Wedyn sylwishi ar y posdar yn deud:
"no hwdis,
no yndyr twenti-wans,
no hets,
no ffwtbol cylyrs"
Och a gwae, am le truenus. Mi dalishi'r dyn a mynd syth i'n ngwely. Dal tren am handi saith bora wedyn, a braf odd ei weld o'n llithro i fewn i orsaf yr hen dre fach lwyd.

No comments:

Post a Comment