Thursday, 25 July 2013

Be wyddwn i am Feicio

Myfi ysydd wr gwrllyd, mi wyddoch hyn o'm gwedd a'm osgo, a myfi aeth i'r lle yr aiff gwyr gwrllyd. Mynd a wnes i'r shed, a phwyri a damio a llusgo clwt budr hyd fy nhalcen. Yno bum yn taenu oel hyd fy nwylo, yn pocedu sgriws ac yn barnu priciau pren. Myfi fu'n bodio'r swarfega'n betrus, pa beth ydwyt ysydd mor wyrdd, Swarfega? Ond ffrind wyt i mi, y gwr sydd a oel hyd ei ddwylo, a myfi ysydd ddiolchgar it a'th gymwynas.
Gwedi baeddu ac ymolchi ychydig, a gwedi diflasu ar rinweddau prin y priciau pren, crwydais ymhellachi ddyfnder y sied. Gwan oedd y golau yma, dyma le da i fagu pryfid cop a nadroedd peryglus. Myfi sydd ddewr, wrth gwrs, ond petrusais o glywed swn pawennau bychain milain hyd y waliau. Gwae fi fy myw, daethais yn rhy bell. Dacw'r drws draw, mal canwyll ar y gorwel, a sicr oeddwn fod y pryfaid copion wedi dechrau mentro coes fy nhrowsus. Amser oedd brin, a'ch arwr mewn mawr drybini. Ond io! Daeth siap cyfarwydd, cyfforddus i'm llaw wrth i mi ymbalfalu mewn dewr banig. Dyna'r teiar, a dyna'r lifar, a dyna'r sbocs o rydlyd weiar. Daeth ceffyl haearn i'm llaw. Ac ar ei gefn cefais ddianc o gefn y sied.

Mae'n un difyr, a'n ffrind i mi a Swarfega, er ei fod yn hyn na fi (Peugeot Premiere, 1987 o'm didoliad i). Hen geffyl haearn Funkle Dewey ydyw. Rwyf am ei drwsio, a'i reidio o gwmpas y lle. Os byddwchi'n lwcus mi wna'i roi llun ohono'n fuan ar y wefan hynod hon.  

No comments:

Post a Comment