Myfi aeth i nofio'r wythnos yma. Dyna hel atgofion hyd goridorau aromatig y ganolfan hamdden. Yma y bûm yn blentyn, yn nofio a chau fy mysedd mewn drysau gwydrog. Yma bûm yn cnoi tabledi lwcosêd a chuddio fy nghwd rhag gweddill y dosbarth.
Myfi ac Aled Hŷn sy'n nofio, nyni fydd yn mynd yn ystod yr euraidd awr honno, gwedi dychwelyd y plantos ysgol i'w bysus hyll, a chyn dyfodiad pysgod-blant y gwersi preifat i gnoi y fflôts. Hen bobol sy'n nofio'r adeg yma, yn mynd a dod yn ara bach, yn ddi-stop. Myfi ac Aled sy'n ddi-brofiad, a'n sbydu ein dogn egni ar ffrynt crôls blêr. Wele ni yn ochneidio yn y pen bas, yn gweddio rhag chwydu dros bob man (Diolch i ras Duw a berodd i ni beidio a bwyta'r fflôts cyn plymio). Nyni sydd welw a'n gyddfau'n drewi o glorin, hanner marw mewn dwy droedfedd o ddŵr, a'n gorfod osgoi mynd-a-dod yr hen stejars. Pawennu'r dŵr i'w hosgoi. Baglu a boddi byth a beunydd wrth ddianc rhagddynt. Y mae'r gwŷr ar eu gorseddau'n giglo, heb estyn eu ffyn haearn eto. Heb daflu y fflôts mawrion i'n hachub, rhag i'r hen bobol ecseitio bur debyg, a'u tipio dan chwerthin.
Llusgais Anymwybodaled Hŷn tua'r ystol, gan rhoi peltan i'r sguthan facstrôcllyd a oedd yn bygwth ein llwybr. Mi awn, meddais. Ni atebodd, Anymwybodaled oedd bellach.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Not knowing Welsh well enough, I asked Mistar Gwgl for a translation. Your writing reads as most poetical.
ReplyDelete"Behold, we will groan at the shallow end, praying from vomiting all over the place (thanks to the grace of God that caused us not to eat the floats before diving)"
Dymuniadau gorau
'ö-Dzin