Sunday, 11 December 2011

Tyrd Olau Gwyn

Tyrd olau gwyn,
Dros y gorwel draw i gychwyn,
Ma 'na un fan hyn sydd ar dân i fynd,
Fu 'rioed yn un ar erfyn,
Tyrd olau gwyn,
Gad 'mi fynd ar adain aderyn,
Ddaw na ddim o fudd i ddyn
O greithiau dyfn hen dennyn,
Tyrd olau gwyn,
Heb fôr, na thir, na therfyn,
Ti'm yn clywad swn traed,
Swn y gwinadd a'r gwaed?
Ma'r fintai fawr ar gychwyn,
Yn barod i fynd, olau gwyn,
Fel adar mân i'th ganlyn,
Yn frodyr, chwiorydd,
Llawn hwyl neu'n llawn cerydd,
Mewn miri neu'n marw ers meityn.

Gad i mi fynd, olau gwyn,
Neu ar Grist, mi rwygwn bob gewin,
Ar graig a mur, ar haearn a dur,
Ar gyrff, ar gariad, ar bob awr a phob eiliad,
Ar lanw a thrai, ar air ac ar fai,
Yn bererin ar bigau i gychwyn

Wednesday, 30 November 2011

Rysait Cawl Stwnsh Cwningod

Clywais sôn lawer gwaith am allu cwningod i fagu cwningod, ond erioed nis brofais hyn i'r ffasiwn raddfeydd ac y profais tra'n coginio cawl stwnsh cwningen hefo Aled, y brawd hynaf, ychydig wythnosau yn ôl.

Glyn 'Rerw a Sian Glyn 'Rerw roddodd inni'n anrheg (neu'n wynepwerth, hwyrach, am iddynt ein hel ymaith o'r tŷ i fyw ar ochr mynydd niwlog) gwdyn ac ynddo dwy gwningen. "Dew ogs, mi wna dam't i futs tshamps i lanwi'r bolws heno" me'r brodyr, a minnau a ddywedodd; "ew, pops, cwningod mawr ydy'r rhai hyn", ac yntau a ddywedodd; "Im felly", ac fe aethpwyd a'r cwdyn cwningod yn ôl i'n cartef ar ochr mynydd.

Gwedi berwi'r dŵr, a gosod ynddo nionod (Aled a'u torrodd, yn rhy fras o beth cy'thral yn fy nhyb i) a phob mathau o hyrbs a sbisys, agorwyd y cwdyn cwningod a gosod dwy gwningen yn y crochan berwi cwningod. "Brenin" me' Aled yr hynaf "Y mae yma gwningen arall yn y cwd!", a dyna ei thaflu hi i'r crochan gyda'r gweddill. Wrth gwrs, bu chwerthin mawr am gamgymeriad Glyn 'Rerw a Sian Glyn 'Rerw yn rhoi tair cwningen yn hytrach na dwy, a bu craffu yn y cwdyn rhag ofn bod mwy yno. Ond ofer fu hynny.

Gwedi berwi'r cwningod dyma eu codi o'r crochan berwi cwningod a'u gosod yn ddel i mi ac Aled 'Rhyna eu cerfio. Dyma fi ac Aled yn cerfio. Gwedi cerfio cwningen yr un, aeth Aled ar ei union i gerfio'r drydydd am ei fod yn gynt na mi am gerfio. A dyna gerfio'r drydedd cwningen. A gwedi hynny dyna graffu i fewn i'r crochan i weld beth fyddai galla i'w neud hefo'r jiws cwningan a winwns a oedd yn trigo yno. "Hurclas!" ebychwyd, daeth cwningen arall i'r fei o'r dyfnderoedd.

A dyna chwethin a fu, dwy i'r cwd a thair allan, tair i'r crochan a phedair allan, dyna chi gwningod! (Er na soniais wrth Aled ar y pryd, rhag peri ofn arno, roeddwn yn pryderu am yr hyn fyddai'n digwydd wedi i ni rhoi'r pedair cwningen yn ein boliau. Dim byd a ddigwyddodd, diolch i'r nef).

Y noson honno cafwyd gwledd o stwnsh cawl cwningen, a oedd ychydig bach yn crap er fod y cig yn dda, a rhoddwyd gweddill y stwnsh cawl cwningen yn y rhewgell. Am fod dwywaith cyngymaint o gwningod a'r disgwyl, roedd gormodedd ohono. Mae dal yno hyd heddiw.

A dyna sut mae gwneud cawl stwnsh cwningen.

Tuesday, 29 November 2011

Myfi ysydd ddyn..

Myfi ysydd ddyn sydd yn byw mewn tŷ,
Sydd yn byw mewn tŷ gyda'm brodyr,
Yn y tŷ mae tri gwely, tair cadair,
Seidr tshep a gwirodydd,
A rhewgell,
Yn y rhewgell mae stwnsh ffa a chawl cwningen,
Stwnsh ffa a chawl cwningen,
Pwdin reis a rwdin peis,
a stwnsh ffa a chawl cwningen,

O na ddoi di ar fy ôl,
I fwyta stwnsh ffa a chawl cwningen,
Rhyw ddydd ar ôl ei gilydd,
Cans rwyf i yn ddyn sydd yn byw mewn tŷ,
Yn byw mewn tŷ gyda'm brodyr.

Wednesday, 28 September 2011

Duw Greodd y Car

Tyrd di heno, draw dros y mynydd,
'Gin ti gar, 'gin i gur, gawni gwrdd heb un cerydd,
D'eud y cawn ni fynd tua'r trefi mawr gwyn,
Dim ond d'eud, mi wn y down ni'n ôl i'r fan hyn

Thursday, 8 September 2011

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #5

Efallai i mi son cyn heddiw mai un o f'amcanion mewn bywyd yw tyfu locsyn. Dyfal donc a dyrr y garreg yn ôl y rhai sy'n rhy hen i wbod, felly treuliais yr wythnos ddiwethaf yn trio, er i mi drio droeon.

Echnos, gan weld, fel pob tro, nad oedd llawer o ddatblygiad ar faes y gad, cefais syniad. Eilliais fy ngên a'm bochau- gan adael be dybiwn i oedd sylfaen mwstash praff. Syniad da, ebychais, byddai mwstash yn fy siwtio i'r dim a'n denu lodesi smart mor swit a siwgr candi i ysgwyd fy llaw ac eistedd ar fy nglin. Hefyd, byddai'n galluogi i mi grynhoi f'ymdrechion ar un ardal o'r wyneb yn unig, yn hytrach na cheisio'n ofer i daenu gwrtaith prin dros faes sy'n rhy fras fel petai. Ac O! Mor felys fyddai deffro'r bore gyda ôl gwrywdod ar fy ngwefl.

Ond ofer (Och!) fu'r ymdrechion. Bu rhaid i mi dynnu llafn trwy'r trawswch heno am ei fod yn edrych mor ofnadwy o hyll.

Wednesday, 31 August 2011

13/6/2006

"Safai Cadwgan ger y safle bws yn aros am rif 18, ddeullath i’r dde eisteddai’r cyhoeddwr bingo. Galwodd “un ag wyth, un-deg-wyth” a diflannodd Cadwgan. Daeth i’r fei mewn ffos ger Llannor."

Monday, 22 August 2011

Be wyddwn i am y Llanw Mawr Hallt #4

Ychydig flynyddoedd yn ôl cefais syniad da. Prynais gyfrol o farddoniaeth Lorca gyda chyfieithiadau sasneg, gan feddwl y byddwn yn dysgu siarad y Sbaeneg fwyaf prydferth a hyfryd ohono. Meddyliais y byddai hyn yn cynyddu y tebygolrwydd o ffendio gwraig to the maximum.

Methiant fu'r ymdrech, ond dwi dal yn meddwl ei fod yn syniad da.