Monday 30 July 2012

Be wyddwn i am bysgota plu?

Myfi ac Aled a Ger aeth i bysgota. Dyrchefwyd fi yn gynnar yn y bore, caniatawyd im gael pas o gwmpas tref Dolgellau mewn car heb do. Wele Ger yn cyfarch y dorf, y mae ganddo air clen i bawb, efe sydd ŵr bonheddig, gŵr y bobl. Efe yw cannwyll eu llygaid, a myfi ac Aled ysydd mal milgwn bronwynion wrth ei ystlys. A wele ni yn cael ein permit brithyll o'r llythyrdy, a wele ninnau'n paratoi ein plu a'n gwiail ar lan y llyn.



Wele ni, wŷr cryfion gwrllyd, yn dringo i'r car dŵr heb do. Ffarwel i Aled a adawyd ar y lan. Ffarwel i'r merched ifanc sydd yn chwifio eu nicars gwynion hyd y cei. Nyni a ddaw yn ôl mal tywysogion i'w cofleidio.



A dyna rwyfo oddi wrth y cei yn ddel i gyd, a chyrraedd canol llyn, a gosod angor, a pharatoi genwair. Mawr yw'r cellwair ar y gwch, myfi sydd amhrofiadol, gŵr y mecryll wyf i, y mae'r brithyllion bychain yn ddieithr im a'm bachyn. Ond cyn i'r bluen daro'r dŵr wele'r gorwel Ger! Gwae! Daw Morus y Gwynt i godi'r angor.
Cludwyd ni, yn erbyn ewyllys, hyd wyneb y dŵr. Mawr fu'r brwydro, pum rhwyf cyfrais unwaith yn fy ngafael, a mawr fu'r rhegi a chrio gan Ger. Dyma weld ei wir wedd am y tro cynta. Wele ef yn lapio ei hun am y mast, clywch ei wylofain uwch gri'r gwynt, y mae cesail ei forddwyd yn wlyb.
Ond ofer fu f'ymdrechion, ni allwn ennill modfedd o'r llyn, a chyda blinder cafwyd ni mewn coedwig o frwyn.
Na phoener Ger, me' fi, rho daw ar dy wylo, myfi ysydd ddyn gwrllyd. Dyma fi yn gweld glan ddieithr trwy'r brwgaitsh, a dyma gydio rhaff yr angor rhwng fy nannedd a phlymio'n ddewr i ddŵr.
Nid oedd dim mwy na throedfedd o ddyfnder, myfi a gafodd godwm. Ond y mae'r pwll yn frith o sliwod congyr a pheic yn ôl pob tebyg.



 Araf Iwan, bydd slei. Y mae Ger druan yn dibynnu arnot. A dyna lusgo'r gwch tua'r lan, un cam ar y tro. Sawl tro disgynais i ryw gagendor du dan wyneb y dŵr, gwlychwyd cesail fy morddwyd, a'r baco oedd yn fy mhoced dîn. Ond daeth llwyddiant yn y man, rhwymais ein bad yn erbyn coeden.



Cariais Ger i'r lan, mal babi yn fy nghôl, a chychwyn yn ôl ar droed, tua'r cei lle bu'r ffarwelio mawr a dagrau a nicyrs gwynion.
Doedd dim golwg o'r merched ifanc yno, dim ond Aled yn pendwmpian wrth y lan oedd yno i'n cyfarch.
Chwedl edifar fu ein trip pysgota, ni ddaliwyd dim un brithyllyn, a collwyd ein bad. Myfi roddodd fy mhen yn fy mhlu am weddill y prynhawn. Gwae fi fy myw.

Peidiwch, da chi, a mynd i bysgota plu ar gwch mewn gwynt main.

No comments:

Post a Comment