Daeth hyfryd ddydd mawrth, dydd y gwersi nofio, dydd y llaeth melys, a'r dydd i gicio'r bêl.
Dyna wisgo fy sanau hirion newydd, ac oddi tanynt dariannau'r grimog, a throwsus byr, a chrys a rhif deg a Maradona ar ei gefn. Ac esgidiau bach glas i ddawnsio hyd yr asgell.
A dyna fynd i gicio pêl, a dyna chwarae a chicio'r bêl. Myfi sydd feistrolgar yn y cwrt cosbi. Dacw un o fy mheli yn hedfan uwchlaw'r criw, dacw un arall yn peri gofid i'n gôl geidwad, dacw un yn canfod gofod mawr lle nad oedd neb. Myfi sydd yn cyfarwyddo'r chwarae.
Ond gwae! Och a wi! Dyna ofid ddaw im, poenau mawr mawr, a'r goes yn gwrthod gwrando ar ei meistr. Myfi a roddodd ormod o straen ar fy nghortyn ham, wele fi yn gwingo mewn gwewyr ar yr asgell.
Gadael y maes, gadael gornest ar ei hanner, eistedd ar ochor pitsh hefo sigaret yn pwyri a damio am awran.
Gêm beryglus yw cicio pêl, myfi sydd am orffwys tan ddydd mawrth nesaf, pryd y caf fod yn feistr ar faes y gad drachefn.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment