Tyddyn y Garlleg, 1890
F'annwyl rieni Sian (a) Glyn,Y mae Aled wedi gadael y tŷ, mi ydw i a Dei wedi datblygu pancake madness. Mi ddaw Aled yn ôl, a fydd na'm wyau ar ôl os y dalith yntau'r clefyd. Y mae hi'n fain yma hebddo, y mae hiraeth fel clwy drwy'r holl dŷ, a Dei a minnau yn sownd ar ben mynydd heb na motor i gyrraedd bys sdop Llithfaen. Y mae Dei yn dweud nad yda ni angen Aled, a fod bywyd yn well ers iddo fynd am dro, ond myfi sydd yn ansicr.
Os y cewch chi amser rhyw dro, danfonwch wyau, blawd a llefrith i'ch meibion.
Mewn hiraeth dwys,
Eich mab ieuengaf,
Iwi Jo
No comments:
Post a Comment