Monday 21 June 2010

Super Turbo Rugby XV

Chwareir Super Turbo Rugby XV (SuTuRuXV) fel rygbi arferol oni bai am y rheolau isod:

1. Coch a glas yw'r unig liwiau a ganiateir i dimau SuTuRuXV eu gwisgo (oni bai am amgylchiadau arbennig, gweler cymal 1.1). Bydd pob gem yn gystadleuaeth rhwng y tim glas a'r tim coch.

1.1 Mewn rhai gemau (a gaiff eu dewis gan Bwyllgor Rhyngwladol Super Turbo Rugby XV) caniateir i un chwaraewr o dim annibynol ymuno a'r gem gan wisgo du. Caiff y chwaraewr hwn ddewis i ba dim y bydd yn chwarae neu wneud ei orau i fod yn niwsans. Fel rheol bydd hyn yn digwydd mewn gemau tyngedfenol.

2. Rhannir y gem yn bedwar chwarter o ugain munud yr un. Bydd y timau yn newid ochr gwedi pob chwarter. Yn yr egwyl rhwng pob chwarter bydd y timau yn gyfrifol am ddiddanu'r dorf gyda sgetsys, dramau byrion a chanu. Bydd tarian fechan yn cael ei gwobrwyo i'r perfformiad gorau.

3. Os bydd y bel yn taro'r postyn ar unrhyw achlysur yn ystod y gem mi fydd yn "multiball". Bydd pymtheg pel yn cael eu saethu ar hap ar faes y chwarae (gan gynnwys un bel droed, gweler cymal 3.1) a bydd yr holl chwaraewyr yn gorfod brwydro am y peli a gwedi eu cael yn eu meddiant yn pannu mynd tuag at y linell gais ac yn tirio. Wedi i bob pel gael ei thirio bydd y dyfarnwr yn cyfrifo'r pwyntiau dyledus. Ychwanegir triphwynt arall fel gwobr i'r tim sydd wedi tirio'r nifer fwyaf o beli.

3.1 Mae'r chwaraewr sydd a'r bel droed yn ei feddiant yn gorfod ei thrin fel pel droed ynghyd ac unrhyw un sy'n ceisio ei daclo. Pe bydd y dyfarnwr yn gweld unrhyw chwaraewr yn camdrin y bel droed neu'r chwaraewr sydd a'r bel yn ei feddiant caiff wobrwo ciciau cosb neu gic o'r smotyn yn dibynnu ar natur y drosedd. Amcan y chwaraewr sydd a'r bel droed yn ei feddiant yw taro'r bel gyda'i droed rhwng pyst ei wrthwynebwyr. Cedwir deubar o fenyg golgeidwad mewn bag y tu ol i'r pysd i'w defnyddio gan un chwaraewr o bob tim yn unig trwy gydol y cyfnod "multiball" pe dymuna y chwaraewyr wneud hynny. Gwobrwyir triphwynt ychanegol am "overhead kicks".

4. Os bydd y dyfarnwr yn disgyn yn ystod y gem mi fydd yn "backwards time". Bydd y cloc yn dechrau cyfri am yn ôl a bydd unrhyw bwyntiau a ennillwyd yn y cyfnod hwn yn cael eu tynnu o'r sgor. Amcan y timau yn y cyfnod hwn yw dod a'u sgôr yn ôl i ddim. Unwaith y bydd tim yn cyflawni'r nod yma bydd "backwards time" yn dod i ben, bydd y sgoriau yn cael eu hadfer i sut oeddent cyn i reolau "backwards time" ddechrau, a bydd y tim sy'n cyrraedd sgôr o ddim gyntaf yn cael ugain pwynt ychwanegol.

5. Ar y 79fed munud bydd rheolau pel droed yn cael eu defnyddio ar y maes chwarae am funud cyfan (gweler reolau pel-droed FIFA). Gwobrwyir 5 pwynt am bob gôl a sgoriwyd, a dau bwynt ychwanegol os bydd y dyfarnwr yn meddwl ei bod yn gôl ryfeddol o dda (megis scissor kicks, overhead kicks, neu ailgreadau perffaith o gôl Maradona yn erbyn Lloegr yng nghwortr ffeinals Cwpan y Byd 1986). Caniateir i'r menyg gol geidwad (gweler nodyn 3.1) eu defnyddio yn y cyfnod yma. Gwedi'r munud bydd y rheolau arferol mewn grym unwaith eto.

Friday 18 June 2010

Than Cyw Lord

Gorfoleddwch! Daeth bywyd newydd i'r ty, hernandez ydi'i enw o/hi (im yn gwbod bedi'r secs eto, ma'r peth/beth bach/fach yn dal yn yr inciwbetyr). Da wan.

Thursday 17 June 2010

hôm cymffyrts

Dwi adra bellach, a'n cronicli bôrd. Ma mhlania mesur glaswellt hefo pren mesur am ddeunaw wythnos wedi disgyn yn ddarna' am fod y farlan rhy dew. Disgwyl i'r cywion ieir ddeor ydw'i wan, dwi am alw un yn Fernando a'i ddysgu i wisgo bandana, mi gaiff ddysgu dan fy adain fel petai.
Iwan.

Friday 4 June 2010

bore da

Bore da blantos. Yn wahanol i'r arfer nid myfi, Iwan, sy'n cymeryd yr awenau heddiw, ond yn hytrach, Elis Defis o'r band enwog- Caryl Parri Jones 3000, of golwg ffêm. Dyma sydd ganddo i'w ddeud:

"Mae Iwan yn gret,
Mae Iwan yn iawn,
Mae Iwan yn gorwynt,
Yn gorwynt o ddawn."

Dyma ei englyn gynta.