Friday, 30 November 2012

Be wyddwn i am y Llanw Mawr Hallt #8

Mae gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Cneifiwch fy nafad, rwy'n glaf,
Mae gen i ebol melyn,
Sy'n tynnu am bedair oed,
Golchwch fy ebol rwy'n glaf,
Mae gen i drowsus glan,
A thwmpath sannau budron,
Budron, sgudron, wudron, mudron,
Golchwch fy sannau rwy'n glaf,
Welidi, welidi, Mari fach?
Welidi Maaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaari annw'l?

Saturday, 17 November 2012

Iwi Jo

Iwi Jo, ar ben tô,
Yn canu:

"Gin to the ear, the word gin. Gin to the crib, gin to the grave. Gin to leg, arm to gin. Gin to the lip. Mouth gin. Gin who is mashed, I mashed gin to my place"

Iwi Jo wirion.





Wednesday, 7 November 2012

Llythyr

Tyddyn y Garlleg, 1890
F'annwyl rieni Sian (a) Glyn,
Y mae Aled wedi gadael y tŷ, mi ydw i a Dei wedi datblygu pancake madness. Mi ddaw Aled yn ôl, a fydd na'm wyau ar ôl os y dalith yntau'r clefyd. Y mae hi'n fain yma hebddo, y mae hiraeth fel clwy drwy'r holl dŷ, a Dei a minnau yn sownd ar ben mynydd heb na motor i gyrraedd bys sdop Llithfaen. Y mae Dei yn dweud nad yda ni angen Aled, a fod bywyd yn well ers iddo fynd am dro, ond myfi sydd yn ansicr.
Os y cewch chi amser rhyw dro, danfonwch wyau, blawd a llefrith i'ch meibion.
Mewn hiraeth dwys,
Eich mab ieuengaf,
Iwi Jo

Sunday, 7 October 2012

Hwyr

Tawel fum yn ddiweddar, mi wn, ond bum brysur.
Bum yn gwyro uwch y ddesgl borslen eto ddoe.

Tuesday, 31 July 2012

Ni

Ia, rhai go ryfadd ydyn' hw', yntê,
Y fo a hi,
A phawb drw'r stryd 'ma, ac yn wir, drwy'r lle-
Ond chi a fi.

T. Rowland Hughes

Monday, 30 July 2012

Be wyddwn i am bysgota plu?

Myfi ac Aled a Ger aeth i bysgota. Dyrchefwyd fi yn gynnar yn y bore, caniatawyd im gael pas o gwmpas tref Dolgellau mewn car heb do. Wele Ger yn cyfarch y dorf, y mae ganddo air clen i bawb, efe sydd ŵr bonheddig, gŵr y bobl. Efe yw cannwyll eu llygaid, a myfi ac Aled ysydd mal milgwn bronwynion wrth ei ystlys. A wele ni yn cael ein permit brithyll o'r llythyrdy, a wele ninnau'n paratoi ein plu a'n gwiail ar lan y llyn.



Wele ni, wŷr cryfion gwrllyd, yn dringo i'r car dŵr heb do. Ffarwel i Aled a adawyd ar y lan. Ffarwel i'r merched ifanc sydd yn chwifio eu nicars gwynion hyd y cei. Nyni a ddaw yn ôl mal tywysogion i'w cofleidio.



A dyna rwyfo oddi wrth y cei yn ddel i gyd, a chyrraedd canol llyn, a gosod angor, a pharatoi genwair. Mawr yw'r cellwair ar y gwch, myfi sydd amhrofiadol, gŵr y mecryll wyf i, y mae'r brithyllion bychain yn ddieithr im a'm bachyn. Ond cyn i'r bluen daro'r dŵr wele'r gorwel Ger! Gwae! Daw Morus y Gwynt i godi'r angor.
Cludwyd ni, yn erbyn ewyllys, hyd wyneb y dŵr. Mawr fu'r brwydro, pum rhwyf cyfrais unwaith yn fy ngafael, a mawr fu'r rhegi a chrio gan Ger. Dyma weld ei wir wedd am y tro cynta. Wele ef yn lapio ei hun am y mast, clywch ei wylofain uwch gri'r gwynt, y mae cesail ei forddwyd yn wlyb.
Ond ofer fu f'ymdrechion, ni allwn ennill modfedd o'r llyn, a chyda blinder cafwyd ni mewn coedwig o frwyn.
Na phoener Ger, me' fi, rho daw ar dy wylo, myfi ysydd ddyn gwrllyd. Dyma fi yn gweld glan ddieithr trwy'r brwgaitsh, a dyma gydio rhaff yr angor rhwng fy nannedd a phlymio'n ddewr i ddŵr.
Nid oedd dim mwy na throedfedd o ddyfnder, myfi a gafodd godwm. Ond y mae'r pwll yn frith o sliwod congyr a pheic yn ôl pob tebyg.



 Araf Iwan, bydd slei. Y mae Ger druan yn dibynnu arnot. A dyna lusgo'r gwch tua'r lan, un cam ar y tro. Sawl tro disgynais i ryw gagendor du dan wyneb y dŵr, gwlychwyd cesail fy morddwyd, a'r baco oedd yn fy mhoced dîn. Ond daeth llwyddiant yn y man, rhwymais ein bad yn erbyn coeden.



Cariais Ger i'r lan, mal babi yn fy nghôl, a chychwyn yn ôl ar droed, tua'r cei lle bu'r ffarwelio mawr a dagrau a nicyrs gwynion.
Doedd dim golwg o'r merched ifanc yno, dim ond Aled yn pendwmpian wrth y lan oedd yno i'n cyfarch.
Chwedl edifar fu ein trip pysgota, ni ddaliwyd dim un brithyllyn, a collwyd ein bad. Myfi roddodd fy mhen yn fy mhlu am weddill y prynhawn. Gwae fi fy myw.

Peidiwch, da chi, a mynd i bysgota plu ar gwch mewn gwynt main.

Tuesday, 17 July 2012

Cerdd i Aled (Sy'n grepachlyd)

Aled rwdlyn, bwdryn bach, 
Ti'n fochaidd, O! Ti'n afiach, 
Dysgais, o dy osgo sach
A'th wep, ti'n glaf o'r grepach!