Saturday, 17 May 2014

Fy Nirgel-Fywyd

Bum dawedog, mi wn, ond yn ysgafn a serchog er hynny. Bum brysur, bum drafeiliwr, bum arwr i nifer.
Myfi ysydd bellach yn byw yng Nghaersaint, a'n llechu dan waliau carreg ar y lonydd cul. Myfi ysydd ysbiydd hyd strydoedd y nos, yn disgwyl yn hardd am fy nghyswllt. Daw'r glaw hyd y stryd fel llanw, a minnau sydd yn fy nghot hir dan lampau'r stryd. Maent y tu ol im, mi wn, dim ond un cam dragywydd, maent yn gwneud im edrych yn dda wrth i mi eu hosgoi a dianc rhagddynt. Dacw Iwi Jo yn cerdded i gaffi'r maes, dacw ddau ddyn yn ei ddilyn, a dacw Iwi Jo'n neidio o'r ffenestr uchaf heb iddynt sylwi. Dacw ef, mal gwennol, yn plymio, yn glanio mal pel, a'n denig eto. Dacw ef yn cuddio y tu ol i Lloyd George. Dacw'r dynion methu a'i ganfod.
Felly y mae fy nirgel-fywyd yma. Mi alla'i smyglo halen i Sbaen. Mi allaf fyw ar feths a wyau. Mae gen i esgyrn sant.

Monday, 7 October 2013

Deud y byddai'n disgwyl

Deud y byddai'n disgwyl yn yr un hen le, pan fydd y byd ar lanw drwy lonydd cul y dre. Mi fydd 'na flodau arna'i, nid blodau sipshwn na llysiau'r blaidd ond blodau bach y cloddiau, heb eu hystyr a heb rhyw fai.

Deud y byddai'n euog, a deud mod i dal yn hardd, deud eu bod nhw yn fy ngwylio yn y drych uwchben y bar. Deud y byddai'n gorfod denig, rho rhyw gelwydd hefo'r gwir, deud y bydda'i yno rwan, deud na fydda'i yno'n hir.

O, mi oni bron a choelio'n hun, mi oedd bron i mi goelio'n hun.

Deud y bues i'n arwr, deud fod gen i esgyrn sant, gad yr amlen ar ei haelwyd, hen blu adar a llythyrau plant.

Be wyddwn i am ffrindiau



Gwedi f'antur yn y garej (Y mae cofnod isod), des i a Swarfega yn ffrinidau gyda'r beic.

Myfi a fu ar fy mhenliniau mewn oel a chogs yn ei drwsio, myfi a roddais eisteddfa newydd arno, a lapio tap brown am ei gyrn, a'i olchi gyda brasso a thwthpesd. A rhoddais olwynion newydd arno, a tshaen, a phyd brecs newyddion. Y mae bellach yn gyfaill da, er ei fod yn gwrthod gwneud defnydd o chwech o'i ddeg ger. A mae'n taflu ei dshaen i'r brwgaitsh weithiau wrth esgyn elltydd. Ta waeth, golygus ydyw, a myfi ysydd mal syr i bawb wrth iddynt fy ngweled yn gwibio heibio'r bwhwmwyr.

Thursday, 25 July 2013

Be wyddwn i am Feicio

Myfi ysydd wr gwrllyd, mi wyddoch hyn o'm gwedd a'm osgo, a myfi aeth i'r lle yr aiff gwyr gwrllyd. Mynd a wnes i'r shed, a phwyri a damio a llusgo clwt budr hyd fy nhalcen. Yno bum yn taenu oel hyd fy nwylo, yn pocedu sgriws ac yn barnu priciau pren. Myfi fu'n bodio'r swarfega'n betrus, pa beth ydwyt ysydd mor wyrdd, Swarfega? Ond ffrind wyt i mi, y gwr sydd a oel hyd ei ddwylo, a myfi ysydd ddiolchgar it a'th gymwynas.
Gwedi baeddu ac ymolchi ychydig, a gwedi diflasu ar rinweddau prin y priciau pren, crwydais ymhellachi ddyfnder y sied. Gwan oedd y golau yma, dyma le da i fagu pryfid cop a nadroedd peryglus. Myfi sydd ddewr, wrth gwrs, ond petrusais o glywed swn pawennau bychain milain hyd y waliau. Gwae fi fy myw, daethais yn rhy bell. Dacw'r drws draw, mal canwyll ar y gorwel, a sicr oeddwn fod y pryfaid copion wedi dechrau mentro coes fy nhrowsus. Amser oedd brin, a'ch arwr mewn mawr drybini. Ond io! Daeth siap cyfarwydd, cyfforddus i'm llaw wrth i mi ymbalfalu mewn dewr banig. Dyna'r teiar, a dyna'r lifar, a dyna'r sbocs o rydlyd weiar. Daeth ceffyl haearn i'm llaw. Ac ar ei gefn cefais ddianc o gefn y sied.

Mae'n un difyr, a'n ffrind i mi a Swarfega, er ei fod yn hyn na fi (Peugeot Premiere, 1987 o'm didoliad i). Hen geffyl haearn Funkle Dewey ydyw. Rwyf am ei drwsio, a'i reidio o gwmpas y lle. Os byddwchi'n lwcus mi wna'i roi llun ohono'n fuan ar y wefan hynod hon.  

Wednesday, 26 June 2013

Dychwelyd

Ar fy mhen fy hun, nid y fi sydd piau'r tŷ yma. Dwi'n chwifio'r fraich a throelli'r glun. Enola Gay, canaf. Mae caniau lemoned gwag ymhobman. Should've stayed at home yesterday. Enola Gay. Dwi'n teimlo fel vocoder.

Myfi yw'r peiriant trist yn y gegin, yn canu fy nghaneuon trist i dŷ gwag.
Dychwelwch ataf, at fy nwylo plastig, fy mynwes loyw.

Saturday, 26 January 2013

Ymson Thyrti-êt-Twenti-ffôr

Daw Thyrti-êt-Twenti-ffôr i mewn i'r ystafell, a cherdded tua ei gadair.

Bwm, bwm, bwm, bwm, tradws, coesings, bwm, bwm. Bwm, bwm a chamu mewn i'r gadair. Mrghnh. Mi allai ddringo'r gadair, i fyny a ni! Wp, wp! Yp wi go, rait tw ddy top. Gosod dwylo'r meini ar gefn y gadair a chodi'r tradws ar y sedd. Wp, wp! Uwch! Mor uchel, a ninnau heb gael tam'd i futs na dim. Uwch! Wp, wp!
Ond mae'r tradws yn llyfrgwn. Gwae! Maent yn llithro, yn bradychu! Disgyn wyf, Fab y Llan, a'm cefn at y gwaelod mawr. Mrghnh! Fy nhranc!

Disgynna Thyrti-êt-Twenti-ffôr o'i gadair.

Saturday, 12 January 2013

Be wyddwn i am Nofio

Myfi aeth i nofio'r wythnos yma. Dyna hel atgofion hyd goridorau aromatig y ganolfan hamdden. Yma y bûm yn blentyn, yn nofio a chau fy mysedd mewn drysau gwydrog. Yma bûm yn cnoi tabledi lwcosêd a chuddio fy nghwd rhag gweddill y dosbarth.
Myfi ac Aled Hŷn sy'n nofio, nyni fydd yn mynd yn ystod yr euraidd awr honno, gwedi dychwelyd y plantos ysgol i'w bysus hyll, a chyn dyfodiad pysgod-blant y gwersi preifat i gnoi y fflôts. Hen bobol sy'n nofio'r adeg yma, yn mynd a dod yn ara bach, yn ddi-stop. Myfi ac Aled sy'n ddi-brofiad, a'n sbydu ein dogn egni ar ffrynt crôls blêr. Wele ni yn ochneidio yn y pen bas, yn gweddio rhag chwydu dros bob man (Diolch i ras Duw a berodd i ni beidio a bwyta'r fflôts cyn plymio). Nyni sydd welw a'n gyddfau'n drewi o glorin, hanner marw mewn dwy droedfedd o ddŵr, a'n gorfod osgoi mynd-a-dod yr hen stejars. Pawennu'r dŵr i'w hosgoi. Baglu a boddi byth a beunydd wrth ddianc rhagddynt. Y mae'r gwŷr ar eu gorseddau'n giglo, heb estyn eu ffyn haearn eto. Heb daflu y fflôts mawrion i'n hachub, rhag i'r hen bobol ecseitio bur debyg, a'u tipio dan chwerthin.
Llusgais Anymwybodaled Hŷn tua'r ystol, gan rhoi peltan i'r sguthan facstrôcllyd a oedd yn bygwth ein llwybr. Mi awn, meddais. Ni atebodd, Anymwybodaled oedd bellach.  

Friday, 30 November 2012

Be wyddwn i am y Llanw Mawr Hallt #8

Mae gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Cneifiwch fy nafad, rwy'n glaf,
Mae gen i ebol melyn,
Sy'n tynnu am bedair oed,
Golchwch fy ebol rwy'n glaf,
Mae gen i drowsus glan,
A thwmpath sannau budron,
Budron, sgudron, wudron, mudron,
Golchwch fy sannau rwy'n glaf,
Welidi, welidi, Mari fach?
Welidi Maaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaari annw'l?

Saturday, 17 November 2012

Iwi Jo

Iwi Jo, ar ben tô,
Yn canu:

"Gin to the ear, the word gin. Gin to the crib, gin to the grave. Gin to leg, arm to gin. Gin to the lip. Mouth gin. Gin who is mashed, I mashed gin to my place"

Iwi Jo wirion.





Wednesday, 7 November 2012

Llythyr

Tyddyn y Garlleg, 1890
F'annwyl rieni Sian (a) Glyn,
Y mae Aled wedi gadael y tŷ, mi ydw i a Dei wedi datblygu pancake madness. Mi ddaw Aled yn ôl, a fydd na'm wyau ar ôl os y dalith yntau'r clefyd. Y mae hi'n fain yma hebddo, y mae hiraeth fel clwy drwy'r holl dŷ, a Dei a minnau yn sownd ar ben mynydd heb na motor i gyrraedd bys sdop Llithfaen. Y mae Dei yn dweud nad yda ni angen Aled, a fod bywyd yn well ers iddo fynd am dro, ond myfi sydd yn ansicr.
Os y cewch chi amser rhyw dro, danfonwch wyau, blawd a llefrith i'ch meibion.
Mewn hiraeth dwys,
Eich mab ieuengaf,
Iwi Jo

Sunday, 7 October 2012

Hwyr

Tawel fum yn ddiweddar, mi wn, ond bum brysur.
Bum yn gwyro uwch y ddesgl borslen eto ddoe.

Tuesday, 31 July 2012

Ni

Ia, rhai go ryfadd ydyn' hw', yntê,
Y fo a hi,
A phawb drw'r stryd 'ma, ac yn wir, drwy'r lle-
Ond chi a fi.

T. Rowland Hughes

Monday, 30 July 2012

Be wyddwn i am bysgota plu?

Myfi ac Aled a Ger aeth i bysgota. Dyrchefwyd fi yn gynnar yn y bore, caniatawyd im gael pas o gwmpas tref Dolgellau mewn car heb do. Wele Ger yn cyfarch y dorf, y mae ganddo air clen i bawb, efe sydd ŵr bonheddig, gŵr y bobl. Efe yw cannwyll eu llygaid, a myfi ac Aled ysydd mal milgwn bronwynion wrth ei ystlys. A wele ni yn cael ein permit brithyll o'r llythyrdy, a wele ninnau'n paratoi ein plu a'n gwiail ar lan y llyn.



Wele ni, wŷr cryfion gwrllyd, yn dringo i'r car dŵr heb do. Ffarwel i Aled a adawyd ar y lan. Ffarwel i'r merched ifanc sydd yn chwifio eu nicars gwynion hyd y cei. Nyni a ddaw yn ôl mal tywysogion i'w cofleidio.



A dyna rwyfo oddi wrth y cei yn ddel i gyd, a chyrraedd canol llyn, a gosod angor, a pharatoi genwair. Mawr yw'r cellwair ar y gwch, myfi sydd amhrofiadol, gŵr y mecryll wyf i, y mae'r brithyllion bychain yn ddieithr im a'm bachyn. Ond cyn i'r bluen daro'r dŵr wele'r gorwel Ger! Gwae! Daw Morus y Gwynt i godi'r angor.
Cludwyd ni, yn erbyn ewyllys, hyd wyneb y dŵr. Mawr fu'r brwydro, pum rhwyf cyfrais unwaith yn fy ngafael, a mawr fu'r rhegi a chrio gan Ger. Dyma weld ei wir wedd am y tro cynta. Wele ef yn lapio ei hun am y mast, clywch ei wylofain uwch gri'r gwynt, y mae cesail ei forddwyd yn wlyb.
Ond ofer fu f'ymdrechion, ni allwn ennill modfedd o'r llyn, a chyda blinder cafwyd ni mewn coedwig o frwyn.
Na phoener Ger, me' fi, rho daw ar dy wylo, myfi ysydd ddyn gwrllyd. Dyma fi yn gweld glan ddieithr trwy'r brwgaitsh, a dyma gydio rhaff yr angor rhwng fy nannedd a phlymio'n ddewr i ddŵr.
Nid oedd dim mwy na throedfedd o ddyfnder, myfi a gafodd godwm. Ond y mae'r pwll yn frith o sliwod congyr a pheic yn ôl pob tebyg.



 Araf Iwan, bydd slei. Y mae Ger druan yn dibynnu arnot. A dyna lusgo'r gwch tua'r lan, un cam ar y tro. Sawl tro disgynais i ryw gagendor du dan wyneb y dŵr, gwlychwyd cesail fy morddwyd, a'r baco oedd yn fy mhoced dîn. Ond daeth llwyddiant yn y man, rhwymais ein bad yn erbyn coeden.



Cariais Ger i'r lan, mal babi yn fy nghôl, a chychwyn yn ôl ar droed, tua'r cei lle bu'r ffarwelio mawr a dagrau a nicyrs gwynion.
Doedd dim golwg o'r merched ifanc yno, dim ond Aled yn pendwmpian wrth y lan oedd yno i'n cyfarch.
Chwedl edifar fu ein trip pysgota, ni ddaliwyd dim un brithyllyn, a collwyd ein bad. Myfi roddodd fy mhen yn fy mhlu am weddill y prynhawn. Gwae fi fy myw.

Peidiwch, da chi, a mynd i bysgota plu ar gwch mewn gwynt main.

Tuesday, 17 July 2012

Cerdd i Aled (Sy'n grepachlyd)

Aled rwdlyn, bwdryn bach, 
Ti'n fochaidd, O! Ti'n afiach, 
Dysgais, o dy osgo sach
A'th wep, ti'n glaf o'r grepach!

Wednesday, 11 July 2012

Be wyddwn i am y bêl gron?

Daeth hyfryd ddydd mawrth, dydd y gwersi nofio, dydd y llaeth melys, a'r dydd i gicio'r bêl. 
Dyna wisgo fy sanau hirion newydd, ac oddi tanynt dariannau'r grimog, a throwsus byr, a chrys a rhif deg a Maradona ar ei gefn. Ac esgidiau bach glas i ddawnsio hyd yr asgell.
A dyna fynd i gicio pêl, a dyna chwarae a chicio'r bêl. Myfi sydd feistrolgar yn y cwrt cosbi. Dacw un o fy mheli yn hedfan uwchlaw'r criw, dacw un arall yn peri gofid i'n gôl geidwad, dacw un yn canfod gofod mawr lle nad oedd neb. Myfi sydd yn cyfarwyddo'r chwarae.
Ond gwae! Och a wi! Dyna ofid ddaw im, poenau mawr mawr, a'r goes yn gwrthod gwrando ar ei meistr. Myfi a roddodd ormod o straen ar fy nghortyn ham, wele fi yn gwingo mewn gwewyr ar yr asgell.
Gadael y maes, gadael gornest ar ei hanner, eistedd ar ochor pitsh hefo sigaret yn pwyri a damio am awran.
Gêm beryglus yw cicio pêl, myfi sydd am orffwys tan ddydd mawrth nesaf, pryd y caf fod yn feistr ar faes y gad drachefn.




Tuesday, 19 June 2012

Menfish ( Neu "Monsters We Have Met")

"When we glided motionless into the ray kingdom, they remained, rolling their big round eyes and closely watching us"


"The battery was composed of seven 25-calibre cannon barrels. Water pressure itself built up the propulsive force as the gun went down. At a depth of three thousand feet the pilot, pressing the trigger of the Piccard-Cosyns gun, could drive harpoons three inches into oak planks fifteen feet away.
       The depth gun was designed to secure whatever interesting animals we encountered, possibly one of the Brodingnagian squids that haunted our imaginations. The animals could be discouraged, not only by the harpoon, but by an electrical discharge running through the harpoon line. In case the specimen resisted electrocution, the harpoon head injected strychnine. At the base of the Piccard-Cosyns gun were spring driven reels for hauling in harpoons and monsters "


Dwi am fynd i nofio, a dwi am adeiladu gwn i fynd hefo fi.

Thursday, 7 June 2012

Gwin Bodsele

Wasdad fel gwin beaujolais,
Dwi'n harddach bob dydd, fel gwin beaujolais,
Yn law ar y champs d'elysee,
beaujolais, beaujolais, beaujolais


Sunday, 8 April 2012

Be wyddwn i am y llanw mawr hallt #7 (I filled my head with rudding stunche)

I filled my head with rudding stunche. Nid fy mai i oedd o. Bai'r jar oedd o. A mi fydd raid i mi fynd i sefyll yn y môr i gael 'madael o'r ffasiwn rwdins.

Thursday, 22 March 2012

Vest Intentions

Och a wi! Gŵr truenus wyf. Myfi sydd â deg fesd wlyb, heb na thymbl drei na gwres yn y tŷ, gwae! Y mae lein ddillad y tu allan, ond mae hi'n nosi, a beth fyddai'r gwŷr a'r merched sy'n byw o boptu im yn feddwl o weld deg fesd wen yn chwifio yn y gwynt?
"Dyma ddyn cry' sy'n curo'i wraig a'i frodyr yn ddi-drugaredd, gwyddom hyn o'r fysd"
Dyna, mi wn, fyddai eu casgliad.
Ond myfi ysydd gyfrwys, gŵr â blynyddoedd o brofiad o guddio fysd rhag llygaid busneslyd. Myfi a rwymodd ddeuben o gortyn, un pen i'r ffenestr ac un pen i'r wal, ac ohoni hongian deg fesd wleb. Yr wyf yn awr yn byw mewn ystafell motel, myfi sydd ŵr cyfrwys a thruenus.

Yn fy motel dwi'n disgwyl am y greyhound aiff a fi tua'r môr, a physgod. A sefyll mewn pyllau mewn sgidiau canfas.


Wednesday, 21 March 2012

Aderyn Bach


I be’r awn i godi hiraeth?
Da ni di bod ffor’ma gan gwaith o’r blaen,
Y deryn bach uwchben y tŷ,
A’r hyn a ddaw o un llaw i’r llall
Yn ddall hyd ddillad y gwely.

I be’r ei di i godi hiraeth?
Gan gwaith bum yma, gan gwaith y dof eto,
Fel y deryn bach wrth ddrws y tŷ,
A ddaeth yn syth o lygad haul,
A’i gael ar agor imi.

Plu ‘deryn bach ar wely’r plas,
O loriau’r tŷ hyd at y tô
I be’r ai i godi hiraeth?
Do’ni ddim gwaeth a thrio
dofi aderyn o latai,
Sy’n torri angor i fynd trwy’r ddôr,
Yn wyllt fel môr a’n ddi-fai.

Ble’r ei di, yr hen dderyn bach?
At rywun i dorri dy galon,
Gad y coed, a gad y caeau,
Gad rhyw farc ar f’adain inna,
Ble’r ei di yr hen dderyn bach?