Saturday, 17 May 2014

Fy Nirgel-Fywyd

Bum dawedog, mi wn, ond yn ysgafn a serchog er hynny. Bum brysur, bum drafeiliwr, bum arwr i nifer.
Myfi ysydd bellach yn byw yng Nghaersaint, a'n llechu dan waliau carreg ar y lonydd cul. Myfi ysydd ysbiydd hyd strydoedd y nos, yn disgwyl yn hardd am fy nghyswllt. Daw'r glaw hyd y stryd fel llanw, a minnau sydd yn fy nghot hir dan lampau'r stryd. Maent y tu ol im, mi wn, dim ond un cam dragywydd, maent yn gwneud im edrych yn dda wrth i mi eu hosgoi a dianc rhagddynt. Dacw Iwi Jo yn cerdded i gaffi'r maes, dacw ddau ddyn yn ei ddilyn, a dacw Iwi Jo'n neidio o'r ffenestr uchaf heb iddynt sylwi. Dacw ef, mal gwennol, yn plymio, yn glanio mal pel, a'n denig eto. Dacw ef yn cuddio y tu ol i Lloyd George. Dacw'r dynion methu a'i ganfod.
Felly y mae fy nirgel-fywyd yma. Mi alla'i smyglo halen i Sbaen. Mi allaf fyw ar feths a wyau. Mae gen i esgyrn sant.

Monday, 7 October 2013

Deud y byddai'n disgwyl

Deud y byddai'n disgwyl yn yr un hen le, pan fydd y byd ar lanw drwy lonydd cul y dre. Mi fydd 'na flodau arna'i, nid blodau sipshwn na llysiau'r blaidd ond blodau bach y cloddiau, heb eu hystyr a heb rhyw fai.

Deud y byddai'n euog, a deud mod i dal yn hardd, deud eu bod nhw yn fy ngwylio yn y drych uwchben y bar. Deud y byddai'n gorfod denig, rho rhyw gelwydd hefo'r gwir, deud y bydda'i yno rwan, deud na fydda'i yno'n hir.

O, mi oni bron a choelio'n hun, mi oedd bron i mi goelio'n hun.

Deud y bues i'n arwr, deud fod gen i esgyrn sant, gad yr amlen ar ei haelwyd, hen blu adar a llythyrau plant.

Be wyddwn i am ffrindiau



Gwedi f'antur yn y garej (Y mae cofnod isod), des i a Swarfega yn ffrinidau gyda'r beic.

Myfi a fu ar fy mhenliniau mewn oel a chogs yn ei drwsio, myfi a roddais eisteddfa newydd arno, a lapio tap brown am ei gyrn, a'i olchi gyda brasso a thwthpesd. A rhoddais olwynion newydd arno, a tshaen, a phyd brecs newyddion. Y mae bellach yn gyfaill da, er ei fod yn gwrthod gwneud defnydd o chwech o'i ddeg ger. A mae'n taflu ei dshaen i'r brwgaitsh weithiau wrth esgyn elltydd. Ta waeth, golygus ydyw, a myfi ysydd mal syr i bawb wrth iddynt fy ngweled yn gwibio heibio'r bwhwmwyr.

Thursday, 25 July 2013

Be wyddwn i am Feicio

Myfi ysydd wr gwrllyd, mi wyddoch hyn o'm gwedd a'm osgo, a myfi aeth i'r lle yr aiff gwyr gwrllyd. Mynd a wnes i'r shed, a phwyri a damio a llusgo clwt budr hyd fy nhalcen. Yno bum yn taenu oel hyd fy nwylo, yn pocedu sgriws ac yn barnu priciau pren. Myfi fu'n bodio'r swarfega'n betrus, pa beth ydwyt ysydd mor wyrdd, Swarfega? Ond ffrind wyt i mi, y gwr sydd a oel hyd ei ddwylo, a myfi ysydd ddiolchgar it a'th gymwynas.
Gwedi baeddu ac ymolchi ychydig, a gwedi diflasu ar rinweddau prin y priciau pren, crwydais ymhellachi ddyfnder y sied. Gwan oedd y golau yma, dyma le da i fagu pryfid cop a nadroedd peryglus. Myfi sydd ddewr, wrth gwrs, ond petrusais o glywed swn pawennau bychain milain hyd y waliau. Gwae fi fy myw, daethais yn rhy bell. Dacw'r drws draw, mal canwyll ar y gorwel, a sicr oeddwn fod y pryfaid copion wedi dechrau mentro coes fy nhrowsus. Amser oedd brin, a'ch arwr mewn mawr drybini. Ond io! Daeth siap cyfarwydd, cyfforddus i'm llaw wrth i mi ymbalfalu mewn dewr banig. Dyna'r teiar, a dyna'r lifar, a dyna'r sbocs o rydlyd weiar. Daeth ceffyl haearn i'm llaw. Ac ar ei gefn cefais ddianc o gefn y sied.

Mae'n un difyr, a'n ffrind i mi a Swarfega, er ei fod yn hyn na fi (Peugeot Premiere, 1987 o'm didoliad i). Hen geffyl haearn Funkle Dewey ydyw. Rwyf am ei drwsio, a'i reidio o gwmpas y lle. Os byddwchi'n lwcus mi wna'i roi llun ohono'n fuan ar y wefan hynod hon.  

Wednesday, 26 June 2013

Dychwelyd

Ar fy mhen fy hun, nid y fi sydd piau'r tŷ yma. Dwi'n chwifio'r fraich a throelli'r glun. Enola Gay, canaf. Mae caniau lemoned gwag ymhobman. Should've stayed at home yesterday. Enola Gay. Dwi'n teimlo fel vocoder.

Myfi yw'r peiriant trist yn y gegin, yn canu fy nghaneuon trist i dŷ gwag.
Dychwelwch ataf, at fy nwylo plastig, fy mynwes loyw.

Saturday, 26 January 2013

Ymson Thyrti-êt-Twenti-ffôr

Daw Thyrti-êt-Twenti-ffôr i mewn i'r ystafell, a cherdded tua ei gadair.

Bwm, bwm, bwm, bwm, tradws, coesings, bwm, bwm. Bwm, bwm a chamu mewn i'r gadair. Mrghnh. Mi allai ddringo'r gadair, i fyny a ni! Wp, wp! Yp wi go, rait tw ddy top. Gosod dwylo'r meini ar gefn y gadair a chodi'r tradws ar y sedd. Wp, wp! Uwch! Mor uchel, a ninnau heb gael tam'd i futs na dim. Uwch! Wp, wp!
Ond mae'r tradws yn llyfrgwn. Gwae! Maent yn llithro, yn bradychu! Disgyn wyf, Fab y Llan, a'm cefn at y gwaelod mawr. Mrghnh! Fy nhranc!

Disgynna Thyrti-êt-Twenti-ffôr o'i gadair.

Saturday, 12 January 2013

Be wyddwn i am Nofio

Myfi aeth i nofio'r wythnos yma. Dyna hel atgofion hyd goridorau aromatig y ganolfan hamdden. Yma y bûm yn blentyn, yn nofio a chau fy mysedd mewn drysau gwydrog. Yma bûm yn cnoi tabledi lwcosêd a chuddio fy nghwd rhag gweddill y dosbarth.
Myfi ac Aled Hŷn sy'n nofio, nyni fydd yn mynd yn ystod yr euraidd awr honno, gwedi dychwelyd y plantos ysgol i'w bysus hyll, a chyn dyfodiad pysgod-blant y gwersi preifat i gnoi y fflôts. Hen bobol sy'n nofio'r adeg yma, yn mynd a dod yn ara bach, yn ddi-stop. Myfi ac Aled sy'n ddi-brofiad, a'n sbydu ein dogn egni ar ffrynt crôls blêr. Wele ni yn ochneidio yn y pen bas, yn gweddio rhag chwydu dros bob man (Diolch i ras Duw a berodd i ni beidio a bwyta'r fflôts cyn plymio). Nyni sydd welw a'n gyddfau'n drewi o glorin, hanner marw mewn dwy droedfedd o ddŵr, a'n gorfod osgoi mynd-a-dod yr hen stejars. Pawennu'r dŵr i'w hosgoi. Baglu a boddi byth a beunydd wrth ddianc rhagddynt. Y mae'r gwŷr ar eu gorseddau'n giglo, heb estyn eu ffyn haearn eto. Heb daflu y fflôts mawrion i'n hachub, rhag i'r hen bobol ecseitio bur debyg, a'u tipio dan chwerthin.
Llusgais Anymwybodaled Hŷn tua'r ystol, gan rhoi peltan i'r sguthan facstrôcllyd a oedd yn bygwth ein llwybr. Mi awn, meddais. Ni atebodd, Anymwybodaled oedd bellach.