Friday 24 December 2010

Crustmas ale

Dydd da blantos,
Bregus wyf, fel bag papur, am i mi yfed gormod o bop (pop brown, pop gwyn, pop coch, pop gwyrdd). Neithiwr bu parti dolig y band a dyna esgus i ddathlu blwyddyn fach lwyddiannus. Y bwriad oedd cael cinio dolig, ofer fu'r ymdrechion, a felly ar ein pennau i polash am gyrri. Dyna'r rheswm pam fy modi ychydig yn wael heddiw, ar noswyl Nadolig o bob noson. Ond, da chi, ma'r crustmas ham ar y bwrdd, a'r samwn, a chyda lwc mi ddaw Santa goch fory hefo lodes ffein mor swit a siwgr candi i mi.
Felly nadolig llawen bob un wan jac.
Iwi Jo

Thursday 23 December 2010

Aur a Thus a Myrrh a Beic

Hm, mi ddes yn ol at hwn yn y pen draw (Ar laptop yr hen wr ydwi a does na'm dewin gosod to bach ar hwn, fel y gwelwch chi).

Mai'n Ddolig, a ma'i di bod yn olew 'leni rhaid deud. Dal heb ddechra teimlo'n Nadoligaidd a gyda lwc nai ddim tan y bora hwnnw. Gwydd gawn ni 'leni, da iawn ebe fi wrth myddar, sna'm angan Twrci me' fi, dadlau'n chwyrn wna Dei a bytheirio; "Onid traddodiad yw?!", "Traddodiad 'mericia ynde" ebe' fi. Bu ffraeo mawr a dwndwr. Ildiodd yr hen ddynas, gwydd a thwrci ar lestri arian ar y bwrdd cinio, gormod o gig me' fi. Heb son am grustmas ham yr hogyn hynaf. A samon yr hen wr. Fydd na'm lle i benelin ar y bwrdd.

Nadolig Llawen,
Iwan

Thursday 9 December 2010

Annwyl Super-Noodles

We've had our day, and now it's over,
We've had our song and now it's sung,
We've had our stroll through summer's clover,
But the summer's gone now, our walking's done.

Dyna ddiwedd i'm mherthynas i a super-nwdls.

Friday 3 December 2010

Dydd Iau

Mi ath yn hwyr mwya' sydyn, a toes na'm hwyl i gal heb gwmni.

Mi fushi'n hogyn da (i raddau) heddiw. Codi'n gynnar i ollwng traethawd yn y blwch erbyn naw ag adra drachefn i ffrio cig moch a wya cyn mynd yn ôl tua campws Llanbadarn am ddarlith. Wrth 'nelu'r tradws tuag adra mi oni'n teimlo mor dda wrth gerddad lawr allt y briallu i mi bicio i iceland i brynnu bwmbras tshiep i ddathlu (mi sylwais fod fwmbras tshiep ar gael yno wythnosau yn ôl). Ond och a wi! Nid bwmbras mohono o gwbl, ond "liquor flavoured with smoky bourbon flavour", bols i hynny. Prynnais goca cola a phitsas cyn mynd drws nesa i fofyn potal o'r goldyn syn yn lidl. Gwae! Doedd yna'm golden syn ar ôl yn lidl, mai'n fain am fwmbras yma ebychais, a mi fodlonais ar botal o hunter's glen finest 8yr old scotch whisky (Hen shit o beth i chi gal dalld).

Er hynny mi welais yr hogan dlysa'n y byd yn lidl, ll'gada mawr yn pefrio, mi ddudodd "sgiws mi" wrth wasgu heibio, o am gariad. A finna'n edrach 'tha sglyfath yn ciwio hefo potal o sgotsh tshep a llond bag o'r cont coca cola.

Ta waeth, mi fu'n ddiwrnod difyrrach na'r arfer.